Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 09/05/2024
Cyfeirnod: REQ105299
32.5 awr / Parhaol
23,114 *
Aberteifi
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion egnïol a gweithgar i gynorthwyo’r ddarpariaeth yng Nghanolfan y Don, sef uned anghenion dwys yr ysgol.
Rydym yn chwilio am berson sydd â diddordeb mewn gweithio’n agos gyda’r disgyblion, sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu da ac sy’n gallu gweithio’n effeithiol a hwyliog gyda gweddill tîm yr ysgol. Byddai dealltwriaeth cadarn o sut i gefnogi plant gydag awtsitiaeth ac anghenion cyfathrebu cymleth yn fanteisiol yn ogystal â chefnogi gyda gofal personol h.y. newid/bwydo.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus arwain y dysgu o fewn grwpiau o ddysgwyr ar adegau o dan gyfarwyddyd yr athrawes ddosbarth. Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg yn fanteisiol ar gyfer y swydd hon.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: