Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 01/05/2026
Cyfeirnod: REQ106612
32.5 awr / Parhaol
26,403 - 27,694 *
Ysgol Dyffryn Aeron, Llanbedr Pont Steffan
Diben y swydd:
Gweithio o dan arweiniad uwch aelodau o’r staff/staff addysgu ac o fewn system gytunedig o oruchwyliaeth; gweithredu rhaglenni gwaith cytunedig gydag unigolion / grwpiau, oddi mewn neu oddi allan i’r ystafell ddosbarth.
Gallai hyn olygu’r rhai sy’n galw am wybodaeth fanwl ac arbenigol mewn rhai meysydd, a bydd yn golygu cynorthwyo’r athro neu’r athrawes gyda’r cylch cynllunio cyflawn, yn ogystal â rheolaeth staff a rheoli/paratoi adnoddau.
O bryd i’w gilydd hefyd, gall staff oruchwylio dosbarthiadau cyfan yn ystod absenoldeb byr-dymor athrawon.
Bydd y prif bwyslais ar gynnal disgyblaeth dda a chadw’r disgyblion wrth eu gwaith. Bydd angen i Oruchwylwyr Llanw ymateb i gwestiynau a rhoi cymorth cyffredinol i’r disgyblion wrth iddynt ymgymryd â gweithgareddau penodol.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: