Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 12/07/2026
Cyfeirnod: REQ106754
35 awr / Cyfnod Penodedig
36,000 - 42,000 *
O fewn a thu allan i Geredigion
Mae Partneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru yn chwilio am Arweinydd Strategol – Cymunedau Actif. Mae’r rôl newydd a chyffrous hon yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sy’n rhagori ar feithrin partneriaethau, cysylltu pobl a sefydliadau o amgylch diben cyffredin, a defnyddio mewnwelediad a dysgu i ysgogi newid cynaliadwy. Os ydych yn angerddol am gryfhau cymunedau, dylanwadu ar systemau, a chreu’r amodau i bobl a lleoedd ffynnu, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Mae rhagor o fanylion a sut i wneud cais i’w gweld yn y Pecyn Recriwtio.