Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 01/07/2026
Cyfeirnod: REQ106757
32.5 awr / Parhaol
76,364 - 84,100 *
Aberteifi
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Uwchradd Aberteifi yn edrych i benodi Dirprwy Bennaeth sy’n arweinydd eithriadol, sy’n meddu ar weledigaeth glir, sydd yn awyddus i ymuno â thîm arweinyddol Ysgol Uwchradd Aberteifi i sicrhau addysg, cefnogaeth a gofal o’r radd flaenaf i bob disgybl yma yn yr ysgol; unigolyn i helpu sicrhau cynnydd pob unigolyn, ac i hyrwyddo a chefnogi pob aelod o staff i sicrhau’r awyrgylch weithio orau posibl i bob un.
Gweler y pecyn atodedig am yr holl fanylion a gwbodaeth angenrheidiol.
Atodwch lythyr cais a chopi o’ch CV os gwelwch yn dda.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: