Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 – Ysgol Gynradd Aberporth

Dyddiad Cau: 08/07/2026

Cyfeirnod: REQ106759

32.5 awr / Cyfnod Penodedig

25,185 *

Aberteifi

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

‘Dyro dy law i mi ac mi awn i fyny’r mynydd’

Disgrifiad o’r Swydd:

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, egniol ac ymroddedig i ymuno â’n tîm cefnogi yn Ysgol Aberporth. Mae cynorthwyydd dosbarth yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi disgyblion cynradd o bob oedran, gan gynnwys rhai ag anawsterau dysgu. Bydd y rôl yn cynnwys cynorthwyo’r athro dosbarth gyda gweithgareddau dysgu, darparu cymorth unigol neu mewn grwpiau bach, a gweithredu rhaglenni ymyrraeth fel rhan o ddarpariaeth gyffredinol yr ysgol. Disgwylir i’r cynorthwyydd hyrwyddo amgylchedd diogel, cynhwysol a chadarnhaol sy’n cefnogi datblygiad academaidd, cymdeithasol ac emosiynol y disgyblion.

Prif Ddyletswyddau:

  • Cefnogi disgyblion cynradd o bob oedran yn y dosbarth, gan gynnwys rhai ag anawsterau dysgu.
  • Gweithio o dan gyfarwyddyd yr athro dosbarth i gynorthwyo gyda gweithgareddau dysgu a datblygu.
  • Darparu cymorth unigol neu mewn grwpiau bach i wella dealltwriaeth a chynnydd.
  • Cynorthwyo gyda gweithredu rhaglenni ymyrraeth fel rhan o ddarpariaeth gyffredinol yr ysgol.
  • Monitro cynnydd disgyblion a rhoi adborth i’r athro dosbarth.
  • Cefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol disgyblion mewn amgylchedd diogel a chynhwysol.
  • Paratoi adnoddau dysgu a chynorthwyo gyda threfniadau dosbarth.
  • Sicrhau bod polisïau diogelu ac iechyd a diogelwch yn cael eu dilyn bob amser.

    Sgiliau a Phrofiad Hanfodol:

    • Profiad o weithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol.
    • Sgiliau cyfathrebu cryf a hagwedd gadarnhaol.
    • Y gallu i weithio’n effeithiol fel rhan o dîm.
    • Hyblygrwydd a pharodrwydd i addasu i anghenion y dosbarth.

    Dymunol:

    • Dealltwriaeth o anghenion amrywiol disgyblion, gan gynnwys rhai ag anawsterau dysgu.
    • Profiad o ddarparu cymorth dysgu neu ymyrraeth (mantais).
    • Cymhwyster Lefel 2 mewn Cymorth Dysgu neu gymhwyster cyfatebol (neu fod yn barod i weithio tuag at un).

    Rydym yn cynnig:

    • Tîm cefnogol a chroesawgar.
    • Cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus.
    • Amgylchedd ysgol sy’n canolbwyntio ar les a chynhwysiant.

    Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

    Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

    Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

    Yr hyn a gynigwn

    Cydbwysedd bywyd a gwaith

    Cynllun cynilo ffordd o fyw

    Cynllun pensiwn cyflogwr hael

    Cynllun beicio i'r gwaith

    Dysgu a datblygu

    Lle byddwch yn gweithio

    Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant

    Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu.  Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: 

    • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
    • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
    • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
    • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
    • Derbyniadau Ysgol 
    • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
    • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
    • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
    • ​Uned Gofal Plant​​: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant