Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Cadeirydd Panel Maethu

Dyddiad Cau: 04/09/2026

Cyfeirnod: REQ106831

Achlysurol

0 *

O fewn Ceredigion

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Mae Gwasanaeth Maethu Cyngor Sir Ceredigion yn ceisio datganiadau o ddiddordeb ar gyfer Cadeirydd Panel Maethu Annibynnol. Yn arbennig, croesawn ymgeiswyr sydd wedi cael eu mabwysiadu a/neu eu maethu eu hunain yn ogystal ag ymgeiswyr sydd â phrofiad proffesiynol neu bersonol o ofal cymdeithasol neu sydd â chefndir ym maes gofal cymdeithasol, meddygol a/neu addysgol.

Ni fydd ymgeiswyr sy’n weithwyr Cyngor Ceredigion yn cael eu hystyried.

Lleoliad: Mae Paneli Maethu yn cael eu cynnal yn rhithwir ar hyn o bryd, fodd bynnag, bydd angen mynychu rhai cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn un o swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion.

Oriau: Un panel y mis 9.30am – 3.30pm ar ddydd Iau (3ydd dydd Iau bob mis)

Mae’r Cadeirydd yn “berson penodedig” sy’n arfer ei swyddogaethau’n annibynnol. Felly, nid oes ganddo/ganddi statws gweithiwr ond mae’n ofynnol iddo/iddo fod â statws gweithiwr er mwyn gallu prosesu taliadau a’r TWE/CYG angenrheidiol gan Gyngor Sir Ceredigion, sy’n atebol i weithredu’r system hon ar enillion trethadwy yn unol â Rheolau Gweithio Oddi ar y Gyflogres CThEF (IR35). Bydd yn ofynnol i aelodau’r panel ddarparu eu manylion banc er mwyn i ffioedd gael eu talu.

Gall aelodau annibynnol o’r panel sydd â statws busnes hunangyflogedig ymgymryd â’r rôl hon, ond byddant hefyd yn ddarostyngedig i Reolau Gweithio Oddi ar y Gyflogres CThEF (IR35).

Cyfrifoldeb y Cadeirydd penodedig yw delio ag unrhyw ymholiadau neu newidiadau mewn statws TWE trwy CThEF.

Rôl Cadeirydd y Panel Maethu

Bydd rôl Cadeirydd y Panel yn cynnwys cadeirio cyfarfodydd y panel, sicrhau bod pob eitem o fusnes yn cael ei chynnwys a bod y panel yn gweithredu yn unol â Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018, a pholisïau a gweithdrefnau perthnasol Cyngor Sir Ceredigion.

Byddwch yn hwyluso cyfranogiad gweithredol holl aelodau’r panel i gyfrannu at ystyriaeth y panel o achosion a gwneud argymhellion clir gyda thystiolaeth dda ynghyd â’r rhesymau drostynt.

Byddwch yn sicrhau bod cofnodion clir a chywir o gyfarfodydd yn cael eu cynhyrchu a’u cymeradwyo cyn eu dosbarthu.

Bydd gennych ddealltwriaeth o’r broses ac arferion maethu a’r fframwaith deddfwriaethol, profiad o leoli plant mewn gofal a phrofiad o gadeirio cyfarfodydd cymhleth. Os hoffech wneud gwahaniaeth i fywydau plant sy’n derbyn gofal, ystyriwch wneud cais.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person ar gyfer Cadeirydd y Panel

  • Cadeirio cyfarfodydd panel, gan sicrhau bod pob eitem o fusnes wedi’i chynnwys a bod y panel yn gweithredu yn unol â Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018 a pholisïau a gweithdrefnau’r asiantaeth.
  • Paratoi ar gyfer cyfarfodydd panel, darllen papurau’r panel yn ofalus, nodi materion allweddol a hysbysu’r cynghorydd proffesiynol os oes angen i sicrhau, cyn belled ag y bo modd, bod yr achos yn ddigonol i’w gyflwyno i’r panel.
  • Hwyluso cyfranogiad gweithredol holl aelodau’r panel wrth gyfrannu at ystyriaeth y panel o achosion a gwneud argymhellion clir gyda thystiolaeth dda ynghyd â’r rhesymau drostynt.
  • Sicrhau bod pawb sy’n mynychu’r panel yn cael eu trin â pharch a chwrteisi.
  • Mynd i’r afael â materion amrywiaeth a hyrwyddo arferion gwrth-wahaniaethol bob amser.
  • Sicrhau bod cofnodion clir a chywir yn cael eu hysgrifennu, gan gofnodi unrhyw amheuon difrifol sydd gan aelodau’r panel, a chymryd rhan yn y gwaith o wirio a chytuno ar gofnodion drafft gydag aelodau eraill y panel cyn iddynt gael eu hanfon at y penderfynwr.
  • Cydgysylltu â’r penderfynwr ac uwch reolwyr eraill yn ôl yr angen.
  • Sicrhau, ar y cyd â’r cynghorydd proffesiynol, bod uwch reolwyr yn ymwybodol o faterion o bryder mewn perthynas ag achosion unigol a materion mwy cyffredinol.
  • Bod yn rhan o’r gwaith o recriwtio a phenodi aelodau’r panel ac unrhyw ystyriaethau ynghylch terfynu penodiad aelod.
  • Adolygu, ar y cyd â’r cynghorydd proffesiynol o bosibl, berfformiad aelodau’r panel yn ôl yr angen, ac o leiaf unwaith y flwyddyn.
  • Cynorthwyo i ddatblygu, hyrwyddo a monitro polisïau, gweithdrefnau, a safonau gwaith uchel mewn gwasanaethau maethu yn yr awdurdod.
  • Cynorthwyo i gynllunio hyfforddiant ar gyfer aelodau a mynychu hyfforddiant o leiaf un diwrnod y flwyddyn.
  • Diogelu cyfrinachedd holl bapurau a thrafodaethau’r panel.

Cymryd rhan yn y canlynol:

  • Penderfynu a yw achos yn ddigonol i’w gyflwyno i’r panel.
  • Penderfynu ar bresenoldeb arsylwyr yn y panel.
  • Penderfynu ar gyfranogiad aelod o’r panel sy’n datgan buddiant mewn achos.
  • Penderfynu pryd y gall fod angen panel ychwanegol.
  • Paratoi adroddiad blynyddol ar waith y panel.

Manyleb Person

Profiad a chymwysterau

  • Profiad, naill ai’n broffesiynol neu’n bersonol neu’r ddau, o leoli plant mewn teuluoedd maeth a phlant sy’n derbyn gofal i ffwrdd o’u teulu biolegol.
  • Profiad o gadeirio cyfarfodydd cymhleth.

Gwybodaeth

  • Gwerthfawrogiad o effaith gwahanu a cholled ar blant.
  • Ymwybyddiaeth o gyfoeth gwahanol fathau o deuluoedd a’u potensial i ateb anghenion plant.
  • Dealltwriaeth o ddiben a swyddogaeth y panel a’r asiantaeth y mae’r panel yn ei gwasanaethu.
  • Dealltwriaeth o’r broses ac arferion maethu ac o’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwaith y panel, neu’r gallu i feithrin yr wybodaeth hon yn gyflym.

Galluoedd

  • Yr awdurdod a’r cymhwysedd i gadeirio panel, gan sicrhau bod y busnes yn cael ei drafod a bod y panel yn gweithredu yn unol â rheoliadau a pholisïau a gweithdrefnau’r asiantaeth.
  • Sgiliau rhyngbersonol a gwrando rhagorol.
  • Y gallu i gyfathrebu’n dda ac yn glir, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  • Y gallu i nodi materion allweddol ac atebion posibl a chyfathrebu’r rhain yn glir.
  • Byddai’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn ddymunol.
  • Y gallu i hwyluso cyfranogiad gweithredol holl aelodau’r panel i gyfrannu at ystyriaeth y panel o achosion ac argymhellion.
  • Y gallu i reoli safbwyntiau cryf aelodau’r panel a allai fod yn groes i’w gilydd, a helpu’r panel i wneud argymhelliad sy’n ystyried yr holl safbwyntiau hyn.
  • Y gallu i drafod materion â’r asiantaeth yn ôl yr angen, gan gydgysylltu â’r penderfynwr ac uwch reolwyr eraill.
  • Pan fydd hyn yn ofyniad gan yr asiantaeth, trwy weithio gyda’r cynghorydd proffesiynol, gallu adolygu perfformiad pob aelod o’r panel pan fydd angen, ac o leiaf unwaith y flwyddyn, gan sicrhau bod hon yn broses ddefnyddiol ac adeiladol i’r aelod o’r panel a’r panel cyfan.

Agwedd

  • Ymrwymiad i gadw plant o fewn eu teulu neu eu cymuned eu hunain lle bo’n bosibl a chynnal cyswllt rhwng plant sy’n byw mewn teuluoedd maeth a’u teuluoedd biolegol lle mae hyn i’w weld er lles gorau’r plentyn.
  • Ymrwymiad i faethu fel ffordd o ateb anghenion plentyn, lle mae hyn i’w weld er lles gorau’r plentyn.
  • Ymrwymiad i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant mewn gofal maeth.
  • Gwerthfawrogi amrywiaeth mewn perthynas â materion ethnigrwydd, crefydd, rhyw, anabledd a rhywioldeb.
  • Dealltwriaeth o’r angen am gyfrinachedd ac ymrwymiad i’w gynnal.
  • Parodrwydd i gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion trwy ddarllen, trafod a hyfforddi.
  • Parodrwydd i gyfrannu’n adeiladol at yr adolygiad blynyddol o’i rôl fel Cadeirydd y Panel, os yw hyn yn un o ofynion yr asiantaeth

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael

  • cyfnod sefydlu llawn
  • ffi, £256 ar gyfer diwrnod llawn ar y panel, a £128 ar gyfer hanner diwrnod ar y panel (disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod ar gael 9am tan 5pm, ac mae’r ffi yn cynnwys amser darllen cyn y panel)

Anfonwch eich CV ynghyd ag enw a manylion canolwr o’ch cyflogaeth/asiantaeth ddiweddaraf at:

Sarah Codner

Rheolwr Tîm: Gwasanaeth Maethu

Porth Cynnal

Ebost: sarah.codner@ceredigion.gov.uk

Bydd datgeliad manylach yn cael ei gynnal gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y rôl hon.

Os yw eich CV yn dangos bod gennych chi’r profiad a’r sgiliau i ymgymryd â’r rôl hon cewch eich gwahodd i ddod am gyfweliad.