Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Swyddog Cefnogi Busnes – Ardal Canolbarth

Dyddiad Cau: 17/09/2026

Cyfeirnod: REQ106871

37 awr / Parhaol

28,598 - 31,022 *

O fewn a thu allan i Geredigion

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Lleolir y swydd yn un o’r swyddfeydd isod:

Aberystwyth / Llandrindod

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno ag Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA), i ddarparu cefnogaeth busnes effeithiol i’r holl staff yr Asiant ac yn cydweithio yn agos gyda amryw o Rheolwyr a Unedau cyffrous.

Byddwch yn chwarae rhan allweddol i ddarparu cymorth busnes mewn amrediad o gyfarfodydd technegol a rheolaethol yn cynnwys trefnu cyfarfodydd, gwahodd cynrychiolwyr, llogi lleoliadau a chymryd cofnodion i lefel uchel o hyfedredd. Rheoli’r blychau, busnes, prynu, hyfforddiant a swyddi gwag: rheoli e-byst sydd wedi’u derbyn
ym mhob mewnflwch i sicrhau yr ymdrinnir â’r e-byst a dderbynnir yn brydlon ac yn effeithiol.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hyn.

Pecyn Recriwtio

Disgrifiad Swydd

Manyleb Person

Dyddiad Cau: 10.00yb, DYDD IAU, 17/9/26.

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.