Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 – Ysgol Gynradd Aberteifi

Dyddiad Cau: 27/09/2026

Cyfeirnod: REQ106876

32.5 awr / Cyfnod Penodedig

26,016 *

Aberteifi

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

‘Cyd dyfu, cyd ddysgu’

‘Yn ymrwymedig i ddarparu addysg gynhwysol o safon uchel i bob un o’m plant mewn awyrgylch sy’n eu galluogi i lwyddo’.

Amcanion yr ysgol:

  • Darparu amgylchfyd dysgu diogel, sy’n sbarduno ac yn cefnogi lles emosiynol a chorfforol ein plant i fod yn unigolion iach, hyderus.
  • Darparu dechrau da mewn bywyd i bob plentyn, gan weithredu amrywiol  strategaethau dysgu sydd â sgiliau fel sylfaen, ac sy’n hyrwyddo ymrwymiad i ddysgu.
  • Annog ein plant i fod yn gyfranwyr mentrus a chreadigol ac i fagu hyder, parch a balchder yn eu hunain ac eraill.
  • Darparu profiadau eang i alluogi’r plant i gyfrannu yn hyderus mewn cymuned ddwyieithog, i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd, trwy feithrin diddordeb tuag at eu diwylliant, treftadaeth, amgylchedd a’r iaith Gymraeg,
  • Dathlu cyflawniad y plant a pharhad yn eu cynnydd trwy ddefnyddio technegau asesu   effeithiol sy’n symud y dysgu ymlaen ac yn  sefydlu safonau uchel.
  • Sicrhau fod ein plant yn ganolog i’w dysgu trwy ddatblygu’u gallu i fod yn ddysgwyr annibynnol mewn hinsawdd sy’n eu herio i wireddu eu potensial.
  • Datblygu partneriaeth effeithiol gybda rhieni sydd wedi’u selio ar barch, a’u hannog i fod yn gyfranwyr gweithredol yn addysg eu plentyn.

    Mae’r gallu i gyfarthrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd uchod.

    Disgrifiad Swydd

    Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Donna Hanly: 01239612491

    Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

    Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

    Yr hyn a gynigwn

    Cydbwysedd bywyd a gwaith

    Cynllun cynilo ffordd o fyw

    Cynllun pensiwn cyflogwr hael

    Cynllun beicio i'r gwaith

    Dysgu a datblygu

    Lle byddwch yn gweithio

    Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant

    Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu.  Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: 

    • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
    • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
    • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
    • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
    • Derbyniadau Ysgol 
    • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
    • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
    • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
    • ​Uned Gofal Plant​​: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant