Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Ecolegydd Cynorthwyol

Dyddiad Cau: 26/10/2026

Cyfeirnod: REQ106908

37 awr / Parhaol

41,177 - 43,149 *

O fewn a thu allan i Geredigion

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Bydd y Cynorthwyydd Ecoleg yn gyfrifol am gynorthwyo’r tîm Newid Hinsawdd a Amgylcheddol i weithredu gofynion polisi Llywodraeth Cymru (LlC) a deddfwriaeth amgylcheddol megis Deddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 1980 ac Adran 6 Deddf Amgylchedd Cymru. Darparu cyngor a chefnogaeth ecolegol broffesiynol i ACGCHC a’n partneriaid yn ymwneud â’r asesiad effaith a mesurau lliniaru ein gweithredoedd ar ecoleg a bioamrywiaeth, gan sicrhau fod ACGCHC yn cydymffurfio gyda
deddfwriaeth ac yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd bioamrywiaeth. Darparu cymorth ecolegol uniongyrchol a chyngor technegol i dimau cyflawni cyfalaf a chynnal a chadw ACGChC, gan gynnwys adolygu dogfennau mewnol ac allanol, cynnal ac adolygu arolygon ac adroddiadau, darparu cyngor technegol, mynychu cyfarfodydd a goruchwylio safleoedd.

Gweithio o fewn y Tîm Amgylchedd i reoli rhestr eiddo stadau meddal gan gynnwys adnabod lleoliad a chyflwr yr asedau ecolegol. Cynnig, dylunio a rheoli rhaglen o brosiectau gwella ecolegol wedi’u datblygu o weithgareddau cynnal a chadw arferol ac ymatebol sy’n gysylltiedig â rheolaeth stadau meddal ac amgylcheddol. Cynorthwyo’r Timau Ecoleg ac Amgylchedd a staff arall ACGCHC i gael trwyddedau CNC lle bo’r angen a chyflawni unrhyw amodau a gofynion megis arolygon, monitro ac
adrodd i sicrhau cydymffurfiaeth. Gweithio gyda’r Ecolegydd i ddatblygu rhaglen o Drwyddedau. Gwaith ar gyfer Rhywogaethau Gwarchodedig hyd at foddhad CNC. Gweithio gyda’r Ecolegydd a CNC i ddatblygu system adrodd ar-lein ar gyfer cydymffurfiaeth gyda thrwyddedau, a gweithio i reoli prosiectau sy’n gysylltiedig â gwelliant ecolegol a gwaith lliniaru.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ac Saesneg yn hanfodol. 

Mwy o wybodaeth yma 

Dyddiad Cau: 10:00yb, Dydd Llun, 26eg Hydref 2026

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.