Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 25/11/2026
Cyfeirnod: REQ106992
37 awr / Parhaol
54,143 - 56,293 *
Y tu allan i Ceredigion
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno ag Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGChC) a chwarae rhan allweddol mewn arwain a chefnogi rheolaeth ac welliant parhaus un o rwydweithiau trafnidiaeth pwysicaf Cymru.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Uned Busnes a Gweithrediadau Statudol i ysgogi perfformiad sefydliadol, llywodraethu, cydymffurfiaeth a gwelliant busnes ar draws yr Asiantaeth. Bydd y Rheolwr Busnes yn darparu arweinyddiaeth strategol ac yn gyfrifol am reoli’r Rheolwr Datblygu a Chefnogi Busnes, y Rheolwr Ansawdd a Llywodraethu Gwybodaeth, a’r Rheolwr Archwilio, gan sicrhau bod swyddogaethau cefnogi busnes allweddol yn cael eu cyflawni’n effeithiol ar draws y sefydliad.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ac mae Saesneg yn hanfodol.
Ffurflenni cais a manylion pellach ar gael trwy wefan Cyngor Gwynedd neu drwy ffonio 01286 679076.
Am sgwrs anffurfiol ynghylch y swydd, cysylltwch â Clive Bayley ar 07967 794002 neu drwy e-bost clivebayley@nmwtra.org.uk