Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Rheolwr Data, Systemau Gwybodaeth ac Arholiadau – Ysgol Bro Pedr

Dyddiad Cau: 03/12/2026

Cyfeirnod: REQ106998

37 awr / Parhaol

40,444 - 42,123 *

Llanbedr Pont Steffan

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

DIBEN Y SWYDD

Prif bwrpas rôl Rheolwr Data, Systemau Gwybodaeth ac Arholiadau ein hysgol bydd sicrhau bod data, systemau gwybodaeth yr ysgol, data perfformiad a threfniadau arholiadau yn cael eu rheoli’n gywir, yn effeithlon ac yn unol â gofynion statudol. Mae’r rôl yn gyfrifol am gynnal uniondeb a dibynadwyedd data’r ysgol, datblygu a rheoli ein systemau gwybodaeth reoli (MIS) sef Bromcom, darparu adroddiadau a dadansoddiadau i gefnogi penderfyniadau ar bob lefel, a sicrhau bod holl brosesau arholiadau mewnol ac allanol yn cael eu gweinyddu’n effeithiol ac yn unol â rheoliadau cenedlaethol. Bydd deiliad y rôl hefyd yn darparu arweiniad technegol ac ymarferol ar ddefnydd systemau data, yn cydlynu prosesau casglu a dilysu gwybodaeth ac yn gweithredu fel pwynt cyswllt allweddol rhwng yr ysgol, cyrff dyfarnu, awdurdodau lleol a darparwyr systemau gwybodaeth. Trwy sicrhau bod gwybodaeth gywir, amserol a hygyrch ar gael, mae’r rôl yn gwneud cyfraniad hanfodol at effeithlonrwydd gweithredol, cydymffurfiaeth statudol a chefnogi blaenoriaethau strategol yr ysgol.

Pecyn Gwybodaeth

Am fwy o wybodaeth neu i drefnu ymweliad cysyllter â’r Pennaeth, Mrs Carys Morgan, drwy ebost ar MorganC506@hwbcymru.net neu drwy ffonio’r ysgol ar 01570 422214

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant

Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu.  Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: 

  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol 
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • ​Uned Gofal Plant​​: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant