Plascrug Avenue, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1HL
Dyma ysgol Gymraeg benodedig gyntaf Cymru a sefydlwyd yn 1939 gan Syr Ifan ab Owen Edwards. Saith o blant oedd yn yr ysgol yn y dyddiau cynnar ond bellach mae’r ysgol wedi tyfu i dros bedwar cant o ddisgyblion. Daw’r disgyblion atom o dref Aberystwyth ac o’r ardaloedd gwledig cyfagos. Tyfodd yr ysgol yn gyson yn ystod yr wythdegau a’r nawdegau wrth i mwy a mwy o rieni weld gwerth mewn addysg Gymraeg. Mae yna gynnydd sylweddol yn y nifer o rieni di-Gymraeg sy’n danfon eu plant i’r ysgol wrth iddynt weld manteision dwyieithrwydd.
Mae’r Llywodraethwyr mewn cydweithrediad ag Awdurdod Addysg Ceredigion wedi cydweithio’n glòs i sicrhau adeilad addas ac adnoddau pwrpasol er mwyn diwallu’r cynnydd yn niferoedd y disgyblion. Mae yna 18 o athrawon a dros 20ain o gynorthwywyr yn gweithio yn yr ysgol ynghyd â 15 o staff ategol. Mae’r tîm yn frwdfrydig ac yn gweithio’n galed i godi safonau a gwella’r ysgol yn barhaus.
Ymfalchïwn yn safonau cyrhaeddiad uchel yr ysgol, ac mae’r ystod eang o weithgareddau allgyrsiol hefyd yn bwysig inni, gyda disgyblion yn profi llwyddiant mewn amrywiol feysydd o eisteddfodau’r Urdd i fyd chwaraeon.
Ein nod yw datblygu’r plentyn cyfan a chreu awyrgylch ddiogel, hapus a Chymreig – “fel y cadwer i’r oesoedd a ddêl y glendid a fu”. Darllenwch ymlaen am ragor o wybodaeth, ac er mwyn cael rhyw flas o fwrlwm yr ysgol brysur hon.
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Gweld mwy