Nodweddion
Parcio Cyhoeddus
Storio Beiciau
Prif Lwybr Bws
Ffreutur
Gorsaf Dren
Cyfeiriad

Llanbadarn Rd, Aberystwyth , SY23 3QN

Sefydlwyd Penweddig yn 1973 ac mae’r ysgol yn gymuned Gymreig sydd yn seilio ei gwaith ar y gwerthoedd sylfaenol o ofal, parch tuag at ein gilydd a gonestrwydd.  Ffocws yr ysgol yw cyflawni potensial pob disgybl a gwneir pob ymdrech i gyrraedd y safonau uchaf o ran cyrhaeddiad academaidd pob disgybl.  Ar y seiliau cadarn hyn gwneir pob ymdrech i ymestyn gorwelion bob un o’i disgyblion i’w galluogi i fod yn ddinasyddion cyfrifol a gweithredol.

Y Gymraeg yw iaith bob dydd yr ysgol a chyfrwng y rhan fwyaf o’r gwersi.  Mae cynnal Cymreictod o fewn yr ysgol, y gymuned leol a thu hwnt yn rhan ganolog o waith yr ysgol.

Conglfaen arall o waith a chennad yr ysgol yw datblygiad moesol, ysbrydol a chorfforol ei disgyblion.  Arddelir y safonau ymddygiad uchaf ac adlewyrchir hyn yn ymddygiad da y disgyblion ar hyd y blynyddoedd.  Mae gan yr ysgol ddisgwyliadau clir ac uchel a chefnogir hyn gan ddisgyblion a theuluoedd yr ysgol.  Mae gwaith dyngarol yn elfen amlwg o waith a thraddodiad Penweddig.

Ar y sylfeini cadarn hyn, paratoa’r ysgol ei phobl ifanc ar gyfer cymryd eu lle yn eu cymunedau boed y rheini yma yng Ngogledd Ceredigion neu ym mhendraw’r byd.

Mae pob disgybl unigol yn bwysig ym Mhenweddig.  Datblygiad cyflawn pob unigolyn yw canolbwynt gwaith yr ysgol.

Aberystwyth

Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...

Gweld mwy