Nodweddion
Parcio Diogel
Storio Beiciau
Prif Lwybr Bws
Cyfeiriad

Ysgol Gynradd Aberporth, Rhiw y Plas, Aberporth, Cardigan, Ceredigion , SA43 2DA

Lleolir ein hysgol bum munud o’r traeth ym mhentref gal mor Aberporth ar arfordir hyfryd Ceredigion.  Ceir golygfeydd o fae Ceredigion o dir yr ysgol.

Derbynia’r ysgol ddisgyblion yn llawn amser i’r dosbarth Derbyn ar ddechrau’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed.

Dynodir yr ysgol yn ‘Ysgol Cyfrwng Cymraeg’ yn ôl polisi iaith yr Awdurdod Addysg.  Golyga hyn mai’r Gymraeg yw prif waith a bywyd yr ysgol ond anelir at sicrhau bod disgyblion yr ysgol yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt drosglwyddo i’r sector uwchradd.

Ein nod yw datblygu pob unigolyn i’w lawn botensial mewn amgylchedd cynhwysol, hapus, diogel a Chymreig.

Mae Canolfan y Don ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig dwys yn rhan annatod o Ysgol Gynradd Aberporth. Mae disgyblion y Ganolfan yn integreiddio i’r brif ffrwd ar gyfer gwersi, sesiynau chwarae, amser cinio a holl weithgareddau’r ysgol.

Mae Ysgol Gynradd Aberporth yn gymuned glos a gofalgar, sy’n sicrhau amgylchedd hapus a diogel i bawb. Mae athrawon a staff yr ysgol yn gydwybodol ac yn gweithio’n ddiwyd a diflino i gynnig traws-doriad o brofiadau gwerthfawr a chyfleoedd helaeth i’r disgyblion.

Mae Ysgol Gynradd Aberporth yn darparu addysg o ansawdd uchel sy’n sicrhau fod pob unigolyn yn cael cyfle cyfartal a mynediad i gwricwlwm eang. Mae’r ysgol yn meithrin sgiliau amrywiol y disgyblion er mwyn iddynt ddatblygu i fod yn ddysgwyr annibynnol, gydol oes.