Coronafeirws

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch ein cymunedau a’n gweithwyr.

Gwerthfawrogwn y gall fod gennych rai cwestiynau mewn perthynas â newidiadau i’n gweithgareddau recriwtio o ganlyniad i’r epidemig Coronafeirws. Rydym felly wedi paratoi’r cwestiynau cyffredin canlynol gobeithiwn fydd o fudd i chi.

Os hoffech ragor o wybodaeth , mae croeso ichi e-bostio adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk.

Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Byddwn yn cysylltu â chi maes o law i roi gwybod a yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus.

Byddwn yn cysylltu â chi i ddechrau’r broses o wirio cyn cyflogi.  Mae’n bosib y bydd y broses yn cymryd ychydig yn hirach nag arfer oherwydd yr amgylchiadau presennol.

Oni bai eich bod wedi clywed fel arall gan y rheolwr recriwtio, bydd disgwyl i chi ddechrau yn eich swydd newydd fel y cytunwyd. Os hoffech drafod eich dyddiad dechrau neu os oes gennych bryderon cysylltwch â ni drwy ein e-bost: adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk.

Mae cael eich cyfweld trwy Zoom yn syml. Y cyfan sydd ei angen yw cysylltiad rhyngrwyd a dyfais gyda meicroffon a chamera.

Rydym wedi paratoi canllawiau y gallwch eu lawrlwytho oddi yma.