Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 05/05/2024
Cyfeirnod: REQ105290
32.5 awr / Parhaol
64,540 - 74,796 *
Ysgol Gynradd Plascrug, Aberystwyth
Mae hwn yn hysbyseb ar gyfer swydd Pennaeth Ysgol Gynradd Plascrug lle mae rhuglder llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.
Yn eisiau o fis Ionawr 2025.
Yn sgil ymddeoliad ein Pennaeth presennol, mae llywodraethwyr Plascrug yn awyddus i benodi olynydd ymroddedig ac ysbrydoledig ar gyfer yr ysgol gynradd gymunedol boblogaidd hon. Rydym yn ymfalchio yn ein perthynas agos gyda’r gymuned leol a’r gymuned ehangach, yn ogystal ag yn ein cysylltiadau rhyngwladol llwyddiannus sydd wedi eu sefydlu ers tro.
Mae Plascrug yn ysgol gynradd ddwyieithog fawr, hynod lwyddiannus, gyda nifer arwyddocaol o ddisgyblion ar y gofrestr a’r Saesneg yn Iaith Ychwanegol iddynt. Adroddodd Estyn yn ei harolwg diwethaf:
“Mae Ysgol Plascrug yn gymuned hapus, ofalgar ac amrywiol lle caiff pob un o’r disgyblion eu gwerthfawrogi’n gyfartal ac mae bron pob un ohonynt yn gwneud cynnydd rhagorol. Mae disgyblion yn dangos sensitifrwydd a pharch rhagorol tuag at eu cyfoedion ac yn disgrifio eu hysgol fel lle cyffrous a chroesawgar ag iddi ymdeimlad hapus a theuluol.”
Pwysleisiodd Estyn hefyd y ‘ceir perthynas weithio eithriadol o effeithiol rhwng staff a disgyblion, sy’n seiliedig ar ddisgwyliadau uchel, her a chymorth yn gyson’, gan adrodd bod arweinwyr yr ysgol yn, ‘darparu arweinyddiaeth strategol hynod effeithiol sy’n seiliedig ar ffocws cryf a chyson ar gynnal safonau uchel o gyrhaeddiad a lles. Mae pob un o’r staff yn rhannu’r weledigaeth glir hon ar gyfer gwelliant parhaus’.
Rydym yn awyddus i sicrhau bod yr ysgol yn parhau i ffynnu ac yn manteisio ar gyfleoedd y dyfodol. Rydym am benodi unigolyn profiadol sy’n meddu ar nodweddion arweinyddiaeth a rheolaeth rhagorol ac a fydd yn:
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:
Mae croeso cynnes i chi ymweld a’r ysgol. Gofynnir i chi wneud trefniadau drwy gysylltu a’r ysgol ar y rhif ffôn canlynol 01970 612286.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Dyddiad Cau: Dydd Sul, y 5ed o Fai 2024 (hanner nos)
Cyfweliadau: Dydd Gwener, 24ain o Fai 2024 (gofynnir i ymgeiswyr sicrhau eu bod ar gael ar y diwrnod hwn)
Rhaid i bob ymgeisydd feddu ar gymhwyster CPCP.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: