Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Rheolwr Cynorthwyol – Cartref Gofal Preswyl Hafan Deg

Dyddiad Cau: 15/05/2024

Cyfeirnod: REQ105306

37 awr / Parhaol

36,648 - 38,223 *

Llanbedr Pont Steffan

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Ydych chi wedi ystyried gweithio ym maes Gofal Preswyl i Oedolion? Rydyn ni’n edrych ymlaen at ehangu ein tîm ac mae angen chi nawr! Rydym yn recriwtio Rheolwr Cynorthwyol i ymuno â’n tîm yng Nghartref Gofal Preswyl Hafan Deg, Llanbedr Pont Steffan, yn barhaol.

Ydych chi’n ofalwr profiadol neu’n chwilio am her newydd? Ymunwch â’n tîm gweithgar, cyfeillgar a chefnogol a gwelwch y gwahaniaeth gwirioneddol y gallwch ei wneud.

Ynglwn â’r rôl 

Nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath yn y rôl amrywiol a gwerth chweil hon. Fel canllaw cyffredinol, gall eich dyletswyddau o ddydd i ddydd gynnwys: 

  • sicrhau bod y gwaith o ddarparu gwasanaethau yn parhau i gydymffurfio yn llawn â Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a’r rheoliadau cysylltiedig
  • bod yn swyddog cyfrifol yn absenoldeb y rheolwr cofrestredig
  • rhoi meddyginiaeth ragnodedig gan gynnwys cyffuriau rheoledig i ddefnyddwyr gwasanaeth a chynorthwyo i reoli system effeithiol ar gyfer rheoli a gweinyddu meddyginiaeth yn ddiogel yn unol â’r polisi a’r weithdrefn ranbarthol a mewnol, pan fo angen 
  • sicrhau bod dogfennaeth yn cael ei chwblhau o safon uchel yn ddyddiol
  • cynorthwyo gyda gwiriadau cymhwysedd a sicrhau bod yr holl hyfforddiant yn gyfredol
  • darparu cefnogaeth emosiynol a sicrwydd i gleientiaid, yn enwedig pan fydd angen iddynt addasu yn sgil newid neu argyfwng teuluol

Ein hymgeisydd delfrydol 

Mae profiad blaenorol o weithio mewn cartref gofal yn hanfodol ynghyd â charedigrwydd, amynedd, parch a gwydnwch.

Ein cynnig i chi 

Mae’r cyfraniad y mae ein gweithwyr yn ei wneud i iechyd, diogelwch a lles ein preswylwyr cartrefi gofal yn amhrisiadwy. Felly, rydym am sicrhau bod ein Gweithwyr Gofal a Chymorth yn teimlo bod gweithio i Geredigion mor werth chweil â phosibl.

Gyda hynny mewn golwg, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddion i’n gweithwyr, gan gynnwys:

  • hyd at 34 diwrnod o wyliau blynyddol
  • mentrau iechyd a lles gan gynnwys ffordd o fyw am ddim a chymorth cwnsela
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • cefnogaeth wych i rieni gan gynnwys tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth ychwanegol, ac arferion gweithio hyblyg helaeth
  • cerdyn disgownt Vectis ar gyfer cynilion ar frandiau enwau mawr a chyda busnesau lleol cofrestredig
  • cyfleoedd dysgu a datblygu i gefnogi cynnydd gyrfa
  • cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys y cynllun Beicio i’r Gwaith

Am fwy o wybodaeth am ein buddion i weithwyr, cliciwch yma.

Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn gofalgar a thosturiol ymuno â thîm cyfeillgar ac ymroddedig a gwneud gwahaniaeth go iawn.

Cyflwyno cais 

Rydym wedi ei gwneud hi’n haws i chi wneud cais drwy symleiddio ein ffurflen gais. Ni fu cyflwyno cais erioed yn haws!  

Os oes angen cymorth arnoch i gwblhau eich cais, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â 01970 633949 neu e-bostio: adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Matthew Parry ar: Matthew.Parry@ceredigion.gov.uk

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person 

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Gofal – Gwasanaethau Ymyrraeth wedi’u Targedu

Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol. Ein prif swyddogaethau yw:

  • Tîm Derbyn a Brysbennu Porth Ceredigion
  • Gwasanaethau Ymyrraeth wedi’i Thargedu
  • Gwasanaethau Maethu
  • Gwasanaethau Preswyl a Gofal Dydd
  • Gwasanaethau Tai
  • Storfeydd Cyfarpar Cymunedol Integredig
  • Tîm Dyletswydd Argyfwng