Rydym eisiau i weithio i Geredigion fod yn brofiad gwerth chweil. Credwn mai’r wobr fwyaf mewn swydd yw boddhad swydd a chyfle i wneud cyfraniad gwerthfawr. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod pawb yn gwerthfawrogi pethau ychwanegol hefyd!
*Gall rhai buddion gweithwyr fod yn wahanol yn dibynnu ar y rôl.
Gweithio o gartref
Dewiswch a ydych yn gweithio yn un o’n swyddfeydd neu o’ch cartref
Pensiwn
Cofrestru ar gynllun pensiwn cyflogwr hael. Naill ai cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (cyfraniad y cyflogwr o 14.6%) neu Bensiwn Athrawon.
Gwyliau
Holiday entitlement starting at 27 days + 8 public holidays and increasing with your length of service up to a maximum of 34 days + 8 public holidays.
Cymorth i Deuluoedd
Great support for parents including enhanced maternity, adoption and paternity pay, and flexible working practices.
Arbedion ffordd o fyw
Gellir defnyddio ein cerdyn Vectis ledled y DU ar frandiau enw mawr a gyda busnesau lleol cofrestredig. Arbedwch arian ar fwydydd, gwyliau, bwyta allan, DIY, offer trydanol, yswiriant, moduro a llawer mwy!
Gofal Iechyd WHA
Drwy dalu drwy ddidyniadau cyflog gallwch ymuno â WHA ac arbed ar gostau optegol, deintyddol, cwnsela, ffisiotherapi ac arosiadau yn yr ysbyty, yn ogystal â chael budd-dal damweiniau personol.
Cwnsela
Mae gan holl weithwyr Ceredigion fynediad at wasanaeth cwnsela cyfrinachol am ddim. Rydym yn awyddus i sicrhau bod ein gweithwyr yn hapus yn eu gwaith yn ogystal â’u bywydau personol.
Benthyciadau neu Brydlesu Car
Loans are available for car purchases for certain employees. In addition there’s the opportunity to make your salary go a lot further with our Car leasing scheme.
Beicio i’r gwaith
Mae’r cynllun Beicio i’r Gwaith yn caniatáu i’n gweithwyr brynu beic trwy aberthu cyflog. Mae hyn yn arbed arian iddynt yn ogystal ag hyrwyddo eu hiechyd.
Cyfraniadau Pensiwn Gwirfoddol Ychwanegol
Caniatáu i chi aberthu cyflog i gronni buddion pensiwn yn ychwanegol at y buddion safonol a ddarperir gan y cynllun CPLlL.
Gofal llygaid
Profion llygaid am ddim ar gyfer defnyddwyr sgrin rheolaidd. Mae gan rai gweithwyr hawl hefyd i gael taleb tuag at gost eu sbectol.
Aelodaeth Canolfannau Hamdden
Aelodaeth gostyngol i’n Canolfannau Hamdden.
Meddalwedd TG
Meddalwedd Microsoft Office am bris gostyngol.
Rydym am i chi gael pob cyfle i gyflawni eich potensial llawn nawr ac yn y dyfodol. Felly, byddwn yn eich annog ac yn eich cefnogi i gofleidio dysgu fel y gallwch chi fod yr hunan orau i chi.
Fel gweithiwr yng Ngheredigion, bydd gennych fynediad at amrywiaeth o gyfleoedd datblygu gan gynnwys modiwlau e-ddysgu ac ystod gynhwysfawr o ddigwyddiadau hyfforddi. Fel arfer mae gennym dros 100 o ddigwyddiadau hyfforddi ar gael i’n gweithwyr ar unrhyw adeg benodol. Rydym hefyd yn ariannu ac yn cefnogi nifer o’n gweithwyr yn gyson i ennill y cymwysterau neu’r ardystiadau proffesiynol sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.
Os ydych chi’n ymgymryd â neu’n dymuno ymgymryd â rôl reoli gyda ni, byddwch wedi cofrestru ar ein Rhaglen Rheolwr Ceredigion lle byddwch yn dysgu sut i fod yn rheolwr gwybodus, teg a grymusol.
Gall gweithio’n hyblyg fod yn arbennig o ddefnyddiol os ydych chi’n rhiant, os oes gennych chi gyfrifoldebau gofalu neu os oes gennych chi anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor. Daw gweithio hyblyg ar sawl gwahanol ffurf. Mae rhai o’n gweithwyr yn gweithio’n rhan-amser, mae gan rai oriau gwaith blynyddol neu oriau cywasgedig tra bod eraill yn rhannu swydd. Un o’n buddion poblogaidd yw ein cynllun oriau hyblyg.
Gall ein holl weithwyr ofyn am gael gweithio oriau hyblyg drwy eu rheolwr. Os mai dyma sydd ei angen arnoch chi ac os na fydd hynny’n cael effaith ar ddefnyddwyr ein gwasanaethau, byddwn yn ceisio’ch cefnogi chi cymaint ag y gallwn.