Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 01/06/2024
Cyfeirnod: REQ105310
Mewnol yn unig
10 awr / Parhaol
22,366 *
Aberaeron
Dim ond gweithwyr cyfredol all wneud cais am y swydd hon.
Rydym am recriwtio Glanhawr/aig i ymgymryd â’r amrywiol gyfrifoldebau glanhau yn Ysgol Gynradd Llanarth sicrhau bod yr Ysgol yn cael ei chadw mewn cyflwr glân a llanwedd.
Mae’r Gwasanaeth Glanhau yn darparu gwasanaeth hanfodol ledled Sir Ceredigion. Pwrpas y rôl yw ymgymryd â thasgau glanhau, gan ddarparu gwasanaeth o safon uchel gan sicrhau amgylchedd diogel ac yn lanwedd.
Er y byddai profiad a gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch yn fanteisiol, darperir hyfforddiant llawn. Mae angen sgiliau cyfathrebu da.
Bydd angen hyblygrwydd ar gyfer pob rôl o ran lleoliad, a’r oriau a weithir a allai gynnwys boreau cynnar, gyda’r nos.
Bydd y tasgau o ddydd i ddydd yn cynnwys glanhau, golchi, brwsio, hwfro, gwacáu biniau sbwriel, sychu mannau penodol â chlwtyn gwlyb a’u dwstio (gallai hyn gynnwys ardal y toiledau a’r cawodydd) gan gynnwys gosodiadau a ffitiadau, defnyddio’r cyfarpar/offer trydanol angenrheidiol lle bo hynny’n briodol.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n llawn cymhelliant ac yn frwdfrydig ynglwn â natur y gwaith. Bydd ganddo/ganddi agwedd hyblyg a bydd ef/hi yn medru cyflawni gwahanol ddyletswyddau yn unol â rhestr waith amrywiol.
Os na fydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y sgiliau angenrheidiol o ran y Gymraeg, caiff ef/hi gefnogaeth lawn i gyrraedd y safon ofynnol o fewn dwy flynedd.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: hpw.property@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni un o brif amcanion Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, sef ceisio rhoi hwb i economi’r Sir a Chanolbarth Cymru. Rydym wedi ein trefnu yn dair prif adran: Gwasanaethau Economi, Cynllunio ac Eiddo. Ein prif swyddogaethau yw: