Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 10/05/2024
Cyfeirnod: REQ105313
32.5 awr / Cyfnod Penodedig
30,742 - 47,340 *
Aberystwyth
Mae’r hysbyseb canlynol am ddau/ddwy Athro/Athrawes llawn amser (tymor penodol am flwyddyn) lle mae’r gallu i sgwrsio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.
Rydym yn edrych am ddau/dwy athro/athrawes ragorol i addysgu o fewn yr ysgol.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth athrawon blaengar a brwdfrydig sydd a dealltwriaeth a phrofiad addas. Yn ogystal, mae’r parodrwydd i gyfrannu tuag at weithgareddau allgyrsiol yn ddymunol.
Yn Ysgol Plascrug cewch gyfle i weithio gyda phlant ymroddgar, cymuned gefnogol a chriw o staff cydwybodol sydd yn rhoi blaenoriaeth clir ar les disgyblion a chynnal safonau uchel.
Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â’r Pennaeth Mr Berian Lewis ar 01970 612286
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol i’r swydd hon.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: