Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 29/04/2026
Cyfeirnod: REQ106597
30 awr / Parhaol
25,185 *
Llandysul
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi awyddus i benodi Gofalwr/aig gweithgar a chydwybodol i ymuno a’n Tîm Cynnal a Chadw ar gytundeb parhaol 30 awr yr wythnos.
Diben y swydd yw sicrhau bod yr ysgol yn lle diogel a chroesawgar ac yn amgylchedd priodol i’n plant, staff ac ymwelwyr. Bydd y swydd hon yn cynnwys amrywiaeth o gyfrifoldebau yn ymwneud gydag adeilad yr ysgol, gan gynnwys materion iechyd a diogelwch a chynnal a chadw yr holl safle tu mewn a thu allan.
Er y croesewir unigolion sydd â phrofiad yn y maes, darperir hyfforddiant cyflawn i’r unigolyn llwyddiannus.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
O weithio yn ein hysgol, byddwch yn gweithio o fewn adeilad modern, gyda’r offer diweddaraf. I gefnogi lles ein staff, mae’r ysgol hefyd yn darparu mynediad rhad ac am ddim i ystafell ffitrwydd yr ysgol o 7.30 y bore hyd at 21.00 yr hwyr i aelodau staff.
Mae Ysgol Bro Teifi yn ysgol gydol oed naturiol Gymreig ar gyfer disgyblion 3–19 oed, sydd wedi’i lleoli ychydig y tu allan i dref Llandysul yn ne-ddwyrain Ceredigion. Rydym yn gwasanaethu ardal wledig hardd a chymunedol, tua 45 munud o ddiwedd yr M4, tua 30 munud o Gaerfyrddin a thua 50 munud o Aberystwyth.
Agorwyd ein hysgol ym Medi 2016 yn dilyn buddsoddiad o tua £30 miliwn gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru. Fel yr ysgol pob-oed cyfrwng Cymraeg bwrpasol gyntaf yng Nghymru, rydym yn cynnig continwwm addysgol di-dor sy’n galluogi ein disgyblion i ddatblygu’n hyderus o’r blynyddoedd cynnar hyd at y chweched dosbarth. Yn ôl gwerthusiadau diweddar gan Estyn, rydym wedi llwyddo i greu cymuned ddysgu gefnogol sy’n rhoi pwyslais cryf ar les, cynnydd a datblygiad pob unigolyn.
Os hoffech wybodaeth pellach am y swydd neu os hoffech drefnu ymweliad i’r safle, mae yna groeso i chi gysylltu gyda’r Pennaeth am sgwrs ar unrhyw adeg drwy ffonio’r ysgol ar 01559 362503 neu drwy e-bostio EvansG304@broteifi.ceredigion.sch.uk
I ddysgu mwy am ein hysgol, ewch i gwefan Ysgol Bro Teifi.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: