Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 30/04/2026
Cyfeirnod: REQ106598
32.5 awr / Parhaol
37,269 - 55,480 *
Llandysul
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi addysgwr blaengar a chydwybodol i ymuno a’n cyfadran Wyddoniaeth lwyddiannus fel Athro/Athrawes Cemeg ar gytundeb parhaol. Croesewir ceisiadau wrth unigolion sy’n dymuno gweithio yn rhan amser neu yn llawn amser. Rydym yn awyddus iawn i glywed wrth athrawon profiadol neu newydd gymhwyso i ymuno gyda’n tîm ymroddgar o athrawon.
Ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus, telir lwfans CAD3e am gyfnod penodedig o ddwy flynedd i gefnogi datblygiad y cwrs Gwyddoniaeth Dwbl TGAU newydd yn yr ysgol. Bydd hyn yn cynnwys gweithredu’r fanyleb Gwyddoniaeth Dwbl, safoni a datblygu asesu mewnol, cefnogi addysgu a dysgu staff, a chefnogi agweddau ymarferol y pwnc. Mae’r lwfans yn gysylltiedig â’r prosiect penodedig hwn yn unig.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
O weithio yn ein hysgol, cewch fynediad at yr adnoddau dysgu modern, diweddaraf wedi eu darparu mewn ystafelloedd dysgu pwrpasol. I gefnogi lles ein staff, mae’r ysgol hefyd yn darparu mynediad rhad ac am ddim i ystafell ffitrwydd yr ysgol o 7.30 y bore hyd at 21.00 yr hwyr i aelodau staff.
Mae Ysgol Bro Teifi yn ysgol gydol oed naturiol Gymreig ar gyfer disgyblion 3–19 oed, sydd wedi’i lleoli ychydig y tu allan i dref Llandysul yn ne-ddwyrain Ceredigion. Rydym yn gwasanaethu ardal wledig hardd a chymunedol, tua 45 munud o ddiwedd yr M4, tua 30 munud o Gaerfyrddin a thua 50 munud o Aberystwyth
Mae’r Gymraeg yn greiddiol i’n hunaniaeth gyda bron i 64% o’n dysgwyr yn defnyddio’r iaith yn y cartref ac rydym yn falch iawn o rôl allweddol yr ysgol wrth gynnal a datblygu’r iaith yn ein cymuned.
Mae’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Os hoffech wybodaeth pellach am y swydd neu os hoffech drefnu ymweliad i’r safle, mae yna groeso i chi gysylltu gyda’r Pennaeth am sgwrs ar unrhyw adeg drwy ffonio’r ysgol ar 01559 362503 neu drwy e-bostio EvansG304@broteifi.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: