Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Pennaeth – Ysgol Gynradd Llanarth

Dyddiad Cau: 06/05/2026

Cyfeirnod: REQ106599

32.5 awr / Dros Dro

61,198 - 70,814 *

Aberaeron

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Mae’r Corff Llywodraethol yn awyddus i benodi pennaeth ysbrydoledig, brwdfrydig ac ymroddedig sydd â disgwyliadau uchel ar gyfer y gymuned ysgol gyfan. Rydym yn chwilio am arweinydd sydd â’r gallu i gynnal cyfeiriad strategol cryf, meithrin diwylliant cadarnhaol a hyrwyddo arloesi parhaus yn ein darpariaeth.

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar fedrau arwain rhagorol, gyda’r gallu i adeiladu ar y cryfderau niferus sydd eisoes yn bodoli ac arwain yr ysgol lwyddiannus hon dros gyfnod mamolaeth.

Mae Ysgol Gynradd Llanarth yn ysgol sy’n gwerthfawrogi gofal, cynhwysiant a chymuned. Rydym yn falch o’n diwylliant teuluol lle mae pob plentyn a phob aelod o staff yn cael eu croesawu, eu cefnogi a’u parchu fel unigolion. Mae ein tîm ymroddedig yn gweithio’n ddi-baid i feithrin amgylchedd lle gall pob plentyn deimlo’n ddiogel, yn hapus ac yn hyderus i ddysgu. Credwn yn gryf mewn adeiladu perthnasoedd cadarnhaol, yn gwrando ar leisiau ein disgyblion ac yn sicrhau bod pob unigolyn – waeth beth yw eu cefndir neu eu hanghenion – yn cael cyfleoedd cyfartal i ddatblygu a ffynnu.

Cydnabyddwn hefyd bwysigrwydd cysylltiad cryf rhwng cartref ac ysgol, ac mae gennym Bwyllgor Ffrindiau’r Ysgol sy’n weithgar iawn ac yn cyfrannu’n sylweddol at brofiadau’r plant.

Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano

Rydym am wahodd unigolyn sydd:

  • â gweledigaeth glir ac uchelgeisiol ar gyfer addysg gynradd
  • yn gallu arwain, ysbrydoli a meithrin tîm cryf a chydweithredol
  • yn barod i fod yn rhan o’n cymuned glos, gefnogol
  • yn gallu cynnal a datblygu’r safonau rhagorol presennol
  • â’r sgiliau a’r angerdd i sicrhau bod pob plentyn yn llwyddo ac yn ffynnu

Gofynion ac Amodau

  • o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, rhaid i bob gweithiwr cymorth dysgu fod wedi’i gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg (EWC).
  • bydd gwiriad manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn hanfodol
  • mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Ymweliadau

Byddem yn croesawu darpar ymgeiswyr i ymweld â’r ysgol os y dymunir. 

I drefnu ymweliad neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Manon Lewis-Wright, y pennaeth drwy e-bost – lewism245@hwbcymru.net neu ffoniwch ar 01545580343.

Dyddiadau Allweddol

  • Dyddiad cau: Dydd Mercher, 6ed o Fai, 2026 am hanner nos
  • Rhestr fer: Dydd Iau, 7fed o Fai, 2026
  • Gwersi, tasgau a chyfweliadau: 14eg o Fai, 2026

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant

Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu.  Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: 

  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol 
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • ​Uned Gofal Plant​​: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberaeron
Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy