Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 15/06/2026
Cyfeirnod: REQ106626
26 awr / Cyfnod Penodedig
25,185 *
Aberaeron
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Dymunwn benodi Cynorthwyydd Addysgu (Lefel 2) brwdfrydig ac ymroddedig i fod yn rhan o Dîm Cefnogi’r Gymraeg Ceredigion sydd â gallu llawn a hyderus i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. O dan arweiniad staff Tîm Cefnogi’r Gymraeg, bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi newydd-ddyfodiaid drwy ddarpariaeth trochi i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fodelu’r Gymraeg yn gyson ac yn gadarnhaol yn y gweithle, gan hyrwyddo defnydd naturiol a hyderus o’r iaith ym mhob agwedd ar y gwaith dyddiol. Bydd natur y rôl yn golygu teithio rhwng y Canolfannau Trochi, neu rhwng ysgolion y sir, yn unol ag anghenion y gwasanaeth. Bydd costau teithio yn cael eu talu yn unol â pholisi’r sir.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon cysylltwch âCaren Thomas ar Caren.Thomas@ceredigion.gov.uk
Dyddiad cyfweld: Dydd Mawrth, 23ain o Fehefin, 2026
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: