Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Cynorthwyydd Croeso (Tymhorol)

Dyddiad Cau: 03/06/2026

Cyfeirnod: REQ106656

37 awr / Cyfnod Penodedig

25,583 - 25,989 *

Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Adnabod Aberystwyth, Ceredigion a Chymru’n dda?  Efallai bod hyn yn gyfle i chi.

Mae Gwasanaeth Twristiaeth Ceredigion yn awyddus i benodi person brwdfrydig, trefnus a chroesawgar i ymuno â thîm prysur Canolfan Croeso Aberystwyth fel Cynorthwydd Croeso dros gyfnod  yr haf.

Mae’r tîm Croeso yn darparu cymorth a gwybodaeth i ymwelwyr a thrigolion lleol am y dref, yr ardal a thu hwnt, ac yn gwasanaethu Siop Amgueddfa Ceredigion sydd ar yr un safle yng nghanol tref Aberystwyth.

Mae’r Ganolfan Croeso ar agor i’r cyhoedd rhwng 10:00 – 17:00, dydd Llun tan ddydd Sadwrn (Sadyrnau ar rota).

Mae hwn yn gyfle da i rhywun sydd yn awyddus  i ddatblygu gyrfa mewn marchnata  twristiaeth/lletygarwch. Byddai’r gallu i gyfathrebu mewn iaith dramor o fantais.

Gan taw contract  penodol dros dro  yw hwn, prif swyddogaeth y swydd hon fydd cyflenwi pan fydd swyddogion twristiaeth eraill yn absennol a chyflenwi dros gyfnodau prysur. Felly bydd yr oriau gwaith yn amrywiol ac yn anodd i’w rhagweld. Nid oes oriau penodol ar gyfer pob wythnos a chynigir y swydd “yn ôl y galw”.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am fwy o fanylion cysylltwch â Eirlys Lloyd – Eirlys.lloyd@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Economi ac Adfywio

Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni un o brif amcanion Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, sef ceisio rhoi hwb i economi’r Sir a Chanolbarth Cymru. Rydym wedi ein trefnu yn dair prif adran: Gwasanaethau Economi, Cynllunio ac Eiddo.  Ein prif swyddogaethau yw:

  • Twf a Menter: Cefnogi twf ac adfywiad economaidd yn lleol ac ar draws y rhanbarth; Tyfu Canolbarth Cymru; yr Ystâd Gorfforaethol a Chyfleoedd Datblygu; Cefnogaeth Prosiect; Cyllid Ewropeaidd a lleol; Canolfan Fwyd Cymru a chefnogi datblygiad Bwyd-Amaeth; Hyrwyddo a datblygu twristiaeth; Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid; Arfordir a Chefn Gwlad
  • Gwasanaethau Cynllunio: Cefnogi twf trwy’r Gwasanaethau Cynllunio a Rheoli Adeiladu; Polisi Cynllunio Defnydd Tir Strategol a Lleol; Rheoli Datblygu; Rheoli Adeiladu; a Chwiliadau Tir.
  • Gwasanaethau Eiddo: Cefnogi rhaglen y Cyngor trwy Reoli Prosiectau; Cynnal a Chadw Eiddo ac Adeiladau; Rheoli Cyfleusterau; Rheoli Carbon; a’r Defnydd Effeithlon o Eiddo’r Cyngor.
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy