Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 31/05/2026
Cyfeirnod: REQ106666
32.5 awr / Cyfnod Penodedig
23,309 *
Llandysul
Dyma gyfle i hyfforddi fel athro/athrawes uwchradd drwy’r TAR wedi’i ARIANNU’N LLAWN yn y Brifysgol Agored (rhaglen 2 flynedd).
Mae’r ysgol yn cynnig cyfle arbennig i unigolyn astudio rhaglen TAR (SAC) drwy raglen sy’n seiliedig ar gyflogaeth (2 flynedd) sydd wedi’i hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru drwy ddarpariaeth y Brifysgol Agored. Mae’r rhaglen yn cynnig cytundeb cyflogaeth dwy flynedd o fewn yr ysgol lle fyddwch yna’n hyfforddi tra’n gweithio. Mae’r ysgol yn gwbl ymrwymedig i gefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru i ehangu mynediad at addysgu ac i amrywio’r proffesiwn.
Mae’r rhaglen wedi’i hanelu at raddedigion sydd am newid gyrfa neu raddedigion sydd â phrofiad o weithio mewn amgylchedd gyda phlant a phobl ifanc. Gall hyn gynnwys cynorthwywyr addysgu, hyfforddwyr dysgu neu swyddogion ieuenctid sydd am symud ymlaen yn eu gyrfa. Croesewir ceisiadau hefyd gan ymgeiswyr sydd yn eu blwyddyn olaf yn y brifysgol.
Y pynciau sydd yn rhan o’r prosiect yw: Mathemateg, Gwyddoniaeth, Cymraeg, Saesneg, Dylunio a Thechnoleg, Cyfrifiadura / TGCH a Ieithoedd Tramor Modern (Sbaeneg)
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cyfle i hyfforddi gyda staff profiadol ac arloesol yn Ysgol Bro Teifi ar raglen TAR y Brifysgol Agored. Mae gan yr ysgol gymuned unigryw a theimlad teuluol a Chymreig lle mae perthynas agos o ymddiriedaeth, gofal a pharch rhwng pobl ifanc a’r staff. Mae elfen gref o gydweithredu a chefnogaeth barod ymhlith y tîm staff, lle mae pob aelod o’r staff yn deall pa mor allweddol yw eu rôl yn llwyddiant a lles ein plant, ein pobl ifanc, a’i gilydd fel oedolion proffesiynol.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n angerddol am gefnogi gweledigaeth yr ysgol ac felly’n gwneud gwahaniaeth mawr yn addysg ac ym mywydau ein pobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd deiliad y swydd hon yn derbyn cefnogaeth lawn gan yr ysgol a’i phobl wrth iddynt ddatblygu’n addysgwr hyderus, arloesol a chreadigol.
Disgrifiad o’r rhaglen
Gofynion mynediad ar gyfer llwybr cyflogedig TAR y Brifysgol Agored sydd wedi’i ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru.
Mae’n ofynnol i ymgeiswyr feddu ar y canlynol, fel isafswm:
Am unrhyw gwestiynau neu ragor o wybodaeth am y rhaglen, anfonwch e-bost at Dîm TAR Cymru: TAR-Cymru@open.ac.uk neu ewch i:
TAR | Tystysgrif Addysg i Raddedigion yng Nghymru | Open University
Os am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon neu i drefnu ymweliad gyda’r ysgol, cysylltwch â Phennaeth Ysgol Bro Teifi, Mr Gareth Evans ar 01559 362503 neu drwy e-bost, EvansG304@broteifi.ceredigion.sch.uk.
Dyddiad y cyfweliad: Wythnos yn cychwyn 08/06/2026
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: