Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Athro / Athrawes – Ysgol Gynradd Penllwyn a Penrhyncoch

Dyddiad Cau: 02/06/2026

Cyfeirnod: REQ106674

19.6 awr / Dros Dro

33,731 - 51,942 *

Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Mae’r Corff Llywodraethu yn ceisio penodi athro/athrawes frwdfrydig, ymroddedig a hynod gymhellol i ymuno â’n ffederasiwn llwyddiannus a chefnogol o fis Medi.

Rydym yn chwilio am ymarferydd rhagorol sy’n:

  • Meddu ar allu profedig i gyflwyno addysgu a dysgu o safon uchel ar draws yr ystod gynradd (y Cyfnod Sylfaen a/neu Gyfnod Allweddol 2).
  • Yn dangos disgwyliadau uchel ar gyfer cyflawniad a lles disgyblion.
  • Yn ymrwymedig i gydweithio fel rhan o dîm cryf ar draws y ddau safle ysgol.

Yn ogystal, rydym yn awyddus i benodi ymgeisydd sy’n gallu:

  • Dangos arbenigedd yn y celfyddydau creadigol, gan gyfoethogi profiadau dysgu ar draws y cwricwlwm ac yn allgyrsiol megis trwy waith yr Urdd.
  • Ymrwymiad cadarn i egwyddorion Ysgolion Iach ac Eco ‘Sgolion, gan hyrwyddo iechyd, lles a ffordd o fyw egnïol a chynaliadwy ymysg ein disgyblion. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

  • Ysbrydoli disgyblion i gyflawni eu gorau mewn amgylchedd meithringar a chynhwysol
  • Cyfrannu at y cwricwlwm ehangach a darpariaeth allgyrsiol
  • Cymryd rhan weithredol ym mywyd y ffederasiwn a’i bartneriaethau cymunedol

Rydym yn cynnig:

  • Cymuned ysgol gynnes a chefnogol
  • Disgyblion brwdfrydig ac ymddwyn yn dda
  • Cyfleoedd dysgu proffesiynol eang i gefnogi datblygiad gyrfa
  • Ymrwymiad cryf i les staff a chydweithio Mae hon yn gyfle cyffrous i ymuno â ffederasiwn blaengar sy’n ymroddedig i ddarparu profiadau cyfoethog ac ysgogol i bob dysgwr.

Disgrifiad Swydd a’r Manyleb y Person

Croeso i unrhyw ymgeisydd gysylltu a’r Pennaeth, Miss Catryn Lawrence ar 01970 880277 am ragor o wybodaeth.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant

Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu.  Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: 

  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol 
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • ​Uned Gofal Plant​​: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy