Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Gofalwr Lefel 1 – Ysgol Gynradd Comins Coch

Dyddiad Cau: 12/06/2026

Cyfeirnod: REQ106681

2.5 awr / Parhaol

24,796 *

Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

A ydych chi’n berson egnïol a gweithgar, sy’n ymfalchïo yn ei waith? Mae gennym gyfle i ofalwr brwdfrydig ymuno â’n tîm i helpu i sicrhau bod yr ysgol yn amgylchedd diogel, croesawgar a phwrpasol i’r plant, y staff a’r ymwelwyr.

Bydd y swydd hon yn cynnwys amrywiaeth o gyfrifoldebau ynghylch adeiladau a safle’r ysgol, gan gynnwys iechyd a diogelwch, cynnal a chadw cyffredinol y safle cyfan a diogelwch.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd yn:

  • Ymarferol ac yn gallu gweithredu systemau a gweithdrefnau’r ysgol
  • Ymfalchïo yn ei waith ac yn gallu awgrymu gwelliannau i amgylchedd yr ysgol
  • Dangos menter wrth sicrhau bod y safle’n ddiogel ac yn drefnus
  • Gallu dilyn asesiadau risg a chreu asesiadau risg deinamig pan fo angen
  • Gallu cyfrannu at brosiectau ac amserlenni cynnal a chadw
  • Meddu ar sgiliau DIY ymarferol da
  • Gallu cyfathrebu’n effeithiol â holl staff yr ysgol
  • Bâr o ddwylo diogel sy’n sicrhau diogelwch y safle cyfan

Yn Ysgol Comins Coch gallwn gynnig amgylchedd gofalgar, cyffrous a chynhwysol, lle mae pawb sy’n mynychu’n teimlo’n ddiogel ac yn hapus.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Am fwy o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol, mae croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth, Mr. Mike Carruthers ar 01970623497 neu trwy e-bost ar: CarruthersM12@hwbcymru.net

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant

Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu.  Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: 

  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol 
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • ​Uned Gofal Plant​​: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy