Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 03/06/2026
Cyfeirnod: REQ106684
32.5 awr / Cyfnod Penodedig
25,185 *
Llandysul
Nifer disgyblion ar y gofrestr: 134 (Oedrannau 3-11)
Dymuna Llywodraethwyr Ysgol Bro Siôn Cwilt benodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel Dau (Llawn-amser) i gefnogi disgybl yn nosbarth Cyfnod Allweddol 2. Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig a hyblyg fydd yn llwyr ymrwymedig i bob agwedd o fywyd yr ysgol. Yn ddelfrydol, mi fyddwch a phrofiad diweddar o weithio mewn ysgol gynradd.
Mae’r gallu i gyfathrebu trwy’r Gymraeg a’r Saesneg yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Os am ragor o wybodaeth neu am drefnu ymweliad â’r ysgol, mae croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth, Mrs Caryl Evans ar 01545 580 107.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: