Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 24/06/2026
Cyfeirnod: REQ106693
37 awr / Cyfnod Penodedig
39,152 - 40,777 *
Llandysul
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Mae Canolfan Bwyd Cymru yn chwilio am unigolion brwdfrydig, hyblyg a chryf eu cymhelliant i ymuno â’n tîm a’I gryfhau, gan gynnig gwasanaeth rhagorol er mwyn hwyluso twf ar draws y sector bwyd a diod.
Rydym wedi creu sawl swydd newydd ar draws ein disgyblaethau datblygu busnes a thechnoleg bwyd i ddatblygu ein hamrediad o gymorth ar draws y gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth ymhellach.
Rydym yn chwilio am unigolion i fod yn rhan o’r tîm, gan gynnig gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth ymarferol, adeiladol a gwerthfawr wedi’u gweithredu ar draws yr holl agweddau ar ddisgyblaethau gweithredol a thechnegol bwyd a diod.
Mae cyfleoedd i bobl ar bob lefel o ran gallu a phrofiad, a chynigir y cyfle i unigolion weithio mewn amgylchedd arloesol a chydweithredol, sy’n canolbwyntio ar sicrhau twf. Byddwch yn ymwneud ag ystod amrywiol o brosiectau ysbrydoledig ac yn cael cyfleoedd lluosog i ymgymryd â datblygiad personol gwerthfawr.
Rydym yn dymuno recriwtio Technolegydd Bwyd cymwys i gynnig cyngor a chymorth technegol i gleientiaid – unigolion, cwmnïau a sefydliadau. Mae profiad ymarferol o’r sector cynhyrchu bwyd a diod yn hanfodol, ynghyd â dealltwriaeth gynhwysfawr o HACCP, prosesau NPD, deddfwriaeth ac egwyddorion diogelwch bwyd.
Dylai fod gennych y gallu i weithredu dull gweithredu ymarferol ac arloesol wrth ddatrys problemau a’r sgiliau I ddehongli a chyfleu gwybodaeth gymhleth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Gina.Davies@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni un o brif amcanion Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, sef ceisio rhoi hwb i economi’r Sir a Chanolbarth Cymru. Rydym wedi ein trefnu yn dair prif adran: Gwasanaethau Economi, Cynllunio ac Eiddo. Ein prif swyddogaethau yw: