Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 15/06/2026
Cyfeirnod: REQ106708
32.5 awr / Parhaol
25,185 *
Aberaeron
Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Dosbarth Lefel 2 i cefnogi grwpiau targed o blant ADY yn y dosbarthiadau prif ffrwd Cymraeg a Saesneg gan ddefnyddio ystod eang o strategaethau dwyieithog o dan arweiniad y CADy. Cefnogi’r Cydlynydd Llythrennedd i ddarparu ymyraethau Sillafu a Darllen a Lles yn y Gymraeg a Saesneg ar draws CA 3. Cefnogi’r CADy i ddarparu prosiectau cwricwlwm Amgen ar draws yr oedranau (Grwpiau Cymraeg a Saesneg)
Mae Ysgol Gyfun Aberaeron yn ysgol ddwyieithog naturiol, a’r nod yw cefnogi pob disgybl i fod yn ddwyieithog erbyn iddynt adael yr ysgol. Mae dros 570 o ddisgyblion, a dros 90 ohonynt yn y 6ed dosbarth. Amcanwn at greu amgylchedd o waith called, lle gall y disgyblion fwynhau llwyddiant academaidd, a datblygu’n bersonol ac emosiynol, trwy rinwedd gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol. Anogir y disgyblion i wneud eu gorau, er mwyn cyrraedd y safonau uchaf posib, ac i’w paratoi am fywyd yn ystod, ac ar ôl eu blynyddoedd ysgol.
Ynghyd ag Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol, mae’r ysgol hefyd yn cynnal Canolfan Adnoddau Arbenigol Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu – Canolfan y Môr. Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio’n hyblyg fel rhan o dîm a gallu newid ei ffordd o weithio i ddiwallu anghenion amrywiol y disgyblion.
Fe fydd gofyn i chi
Rydym am benodi unigolyn sydd â
Fe fydd yr ymgeisydd perffaith yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur, drwy ddefnyddio’u menter, gydag rhagolwg bositif a gwir ddiddordeb yn cefnogi anghenion dysgu’r disgyblion.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: