Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Hyfforddai Graddedig: Datblygu Systemau ac Adrodd (AD)

Dyddiad Cau: 02/08/2026

Cyfeirnod: REQ106721

37 awr / Cyfnod Penodedig

26,403 - 27,694 *

Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Ydych chi’n mwynhau creu ffurflenni, datrys problemau ymarferol a defnyddio technoleg i wella prosesau? Rydym yn chwilio am raddedig brwdfrydig i ymuno â’n Gwasanaeth Pobl a Threfniadaeth a chael profiad ymarferol o ddatblygu ffurflenni gwe ar gyfer ein gwasanaeth AD, ochr yn ochr â chefnogi datblygiad dangosfyrddau a chynhyrchu adroddiadau data.

Gan weithio ochr yn ochr â’n Swyddog Datblygu ac Integreiddio Systemau AD, byddwch yn helpu i greu a gwella ffurflenni a llifau gwaith digidol, cefnogi datblygiad a defnydd systemau AD, a chyfrannu at adroddiadau sy’n troi data’r gweithlu yn wybodaeth glir a defnyddiol.

Byddai’r cyfle hwn yn arbennig o addas i rywun sy’n mwynhau datblygu ffurflenni, sydd eisiau defnyddio ei sgiliau HTML a Visual Basic mewn amgylchedd gwaith go iawn, ac sy’n mwynhau gweithio gyda data. Fel rhan o’r rôl, byddwch hefyd yn cael cymorth i gwblhau cymhwyster rheoli prosiectau PRINCE2 achrededig a defnyddio’ch dysgu i gefnogi blaenoriaethau gwasanaeth go iawn.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

  • Cefnogi’r gwaith o ddylunio, datblygu, profi a chynnal ffurflenni gwe a llifau gwaith digidol pwrpasol, gan weithio gyda defnyddwyr i ddeall gofynion a gwella prosesau digidol.
  • Cynorthwyo gyda datblygu, gwella a chynnal adroddiadau a dangosfyrddau Power BI, gan helpu i sicrhau mewnwelediad data cywir, amserol ac ystyrlon.
  • Gweithio gyda chydweithwyr ar draws y gwasanaeth Pobl a Threfniadaeth i gefnogi integreiddio systemau, ansawdd data a llif effeithiol gwybodaeth rhwng offer a llwyfannau digidol.
  • Cyfrannu at brosiectau digidol, data a gwelliant sydd wedi’u diffinio, gan gefnogi dogfennaeth, profi, canllawiau defnyddwyr a gweithgareddau gwelliant parhaus.
  • Datblygu sgiliau technegol, dadansoddol a phroffesiynol drwy waith dan oruchwyliaeth, hyfforddiant a chyfranogiad mewn prosiectau, gan gefnogi datblygiad tuag at rôl arbenigol ym maes digidol, data neu systemau.

Pwy rydym yn chwilio amdano

Rydych yn chwilfrydig, yn drefnus ac yn mwynhau datblygu ffurflenni a gweithio gyda data. Rydych yn hoffi datrys problemau, dysgu technolegau newydd a throsi gwybodaeth yn fewnwelediadau ystyrlon.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cyfle graddedig hwn, bydd angen:

  • Gradd 2:1 neu uwch, a gafwyd o fewn y 3 blynedd diwethaf.
  • Gwybodaeth am dechnolegau gwe, gan gynnwys HTML, CSS a JavaScript.
  • Dealltwriaeth o sut mae ffurflenni a systemau ar y we yn gweithredu, gan gynnwys ffurfweddu, dilysu, egwyddorion dylunio ymatebol a phrofiad y defnyddiwr.
  • Dealltwriaeth sylfaenol o gronfeydd data a SQL, gan gynnwys sut mae data yn cael ei storio, ei strwythuro a’i ymholi.
  • Diddordeb mewn dadansoddi data, adrodd a datblygu dangosfyrddau, ynghyd â pharodrwydd i ddatblygu sgiliau mewn offer megis Power BI.
  • Y gallu i egluro syniadau technegol yn glir ac yn rhesymegol i gydweithwyr nad ydynt yn dechnegol.

Beth sydd ynddo i chi?

  • Cyfle cyflogedig am 12 mis (gyda’r bwriad o ddechrau yng nghanol mis Medi 2026).
  • Cymhwyster rheoli prosiectau cydnabyddedig (PRINCE2).
  • Cymorth a mentora proffesiynol.
  • 27 diwrnod o wyliau blynyddol, ynghyd ag 8 gŵyl banc.
  • Gweithio hybrid, yn amodol ar weithfan addas, cysylltiad band eang ac anghenion y gwasanaeth.
  • Amser hyblyg – gallwch weithio eich oriau rhwng 7:30am a 7:00pm.
  • Y posibilrwydd o gontract dilynol, yn amodol ar berfformiad rhagorol ac argaeledd cyllid, a all gynnwys cymorth pellach i ennill cymhwyster proffesiynol arbenigol.

Os ydych yn barod i ddechrau gyrfa bwrpasol a helpu i lunio’r ffordd rydym yn defnyddio systemau a data i gefnogi ein gweithlu, gwnewch gais nawr a dechreuwch eich gyrfa gyda Thîm Ceredigion!

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanwl am y cyfle hwn a’r profiad cyflogaeth rydym yn ei gynnig yn Nhîm Ceredigion ar gael yn y dogfennau canlynol:

Cynhelir y cyfweliadau yng Nghanolfan Rheidol, Aberystwyth, SY23 2JY ddydd Gwener, 7 Awst 2026.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Angharad Rees drwy angharad.nofelo.rees@ceredigion.gov.uk

Sylwer fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn ddarostyngedig i ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd eto i’w gadarnhau. Bydd y cyflog terfynol yn cael ei addasu yn unol â hynny pan fydd cytundeb wedi’i gyrraedd.

Rydym yn cadw’r hawl i ymestyn dyddiad cau’r hysbyseb.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Pobl a Threfniadaeth

Rydym yn cynnig cymorth i’r sefydliad er mwyn denu, datblygu a chadw gweithlu ystwyth sy’n perfformio’n dda, gan weithio mewn amgylchedd diogel, sy’n gallu darparu gwasanaethau o’r safon uchaf i ddinasyddion Ceredigion nawr ac yn y dyfodol. Ein prif swyddogaeth yw:

  • Cyngor a Gweinyddu Adnoddau Dynol: Absenoldeb; Arfarniadau; Cytundebau; Disgyblu; Cwyno; Gwerthuso Swyddi; Rheoli Newid; Recriwtio ac Ar-fyrddio.
  • Iechyd, Diogelwch a Lles: Cyngor; Cydymffurfio; Asesiadau risg.
  • Dysgu a Datblygu: E-ddysgu; Digwyddiadau; Panel cymwysterau; Hyfforddiant.
  • Ymgysylltu a Lles: Ceri +; Cyfathrebu Mewnol; Marchnata Recriwtio
  • Tâl a Budd-daliadau:  Cyflogres; Pensiynau; Taflenni amser.
  • Systemau: Datblygiad a System Ceri; Data ac Adrodd.
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy