Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 26/07/2026
Cyfeirnod: REQ106726
37 awr / Parhaol
39,152 - 40,777 *
Aberaeron
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Ymunwch â Thîm Dysgu a Datblygu prysur i’n helpu i sicrhau bod gan ein gweithlu gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol y sgiliau a’r wybodaeth gywir i ddarparu gwasanaethau rhagorol i ddinasyddion Ceredigion.
I’r person iawn, sydd â’r sgiliau cywir, ystyrir Gweithio Hybrid/Gweithio Rhan-amser/Rhannu Swydd. Rydym yn barod i fod yn hyblyg a chynllunio ein hyfforddiant ar-lein ac wyneb yn wyneb mewn ffordd sy’n gweithio i ni ac i chi.
Gan ddefnyddio eich sgiliau a’ch profiad fel gweithiwr cymdeithasol cymwys a chofrestredig, byddwch yn datblygu ac yn cyflwyno hyfforddiant i staff y Cyngor a’r gweithlu gofal cymdeithasol allanol. Yn ogystal, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi a chydlynu ein Cynllun Gwaith Cymdeithasol dan Hyfforddiant.
Mae hon yn swydd gyffrous mewn tîm uchelgeisiol, arloesol sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi ymgorffori Realiti Rhithwir yn y ffordd y cyflwynir hyfforddiant. Rydym yn chwilio am frwdfrydedd, dull hyblyg ac ymrwymiad ac angerdd dros ddysgu a gwaith tîm. Fel cyfathrebwr rhagorol, byddwch yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol eraill a darparwyr hyfforddiant gofal cymdeithasol i gynnig cyfleoedd datblygu, cymwysterau a hyfforddiant sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n gweithlu gwaith cymdeithasol/gofal cymdeithasol.
Bydd mynychu digwyddiadau Hyfforddi’r Hyfforddwr ac wedyn cynllunio a chyflwyno’r broses o weithredu rhaglenni hyfforddi yn elfen allweddol o’r rôl hon.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon cysylltwch âVikkie Foale ar Victoria.Foale@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig cymorth i’r sefydliad er mwyn denu, datblygu a chadw gweithlu ystwyth sy’n perfformio’n dda, gan weithio mewn amgylchedd diogel, sy’n gallu darparu gwasanaethau o’r safon uchaf i ddinasyddion Ceredigion nawr ac yn y dyfodol. Ein prif swyddogaeth yw: