Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Gweithiwr Amgylchedd 1 Wrth Gefn – Depo Glanyrafon

Dyddiad Cau: 07/07/2026

Cyfeirnod: REQ106728

Achlysurol

24,796 *

Depo Glanyrafon, Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Rydym yn awyddus i recriwtio Gweithredwyr Amgylcheddol Wrth Gefn i ymuno â’n Gwasanaeth Casglu Gwastraff prysur, wedi’u lleoli yn naill ai yn ein Depo Glanyrafon, Aberystwyth.

Mae cyfle i ymuno â thîm Amgylcheddol Lleol sy’n darparu gwasanaethau casglu rheng flaen, gan gynnwys ailgylchu, gwastraff bwyd, gwastraff gweddilliol a gwydr, yn ogystal â gweithgareddau glanhau strydoedd.

O ddydd i ddydd byddwch yn:

  • Llwytho deunyddiau gwastraff ac ailgylchu ar gerbydau yn ôl yr angen.
  • Gwagio biniau sbwriel.
  • Cyflawni’r gweithgareddau corfforol sy’n ofynnol – gan gynnwys codi, ysgubo, ymestyn a phlygu.
  • Cael eich disgwyl i weithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd.

Rydym yn awyddus i recriwtio unigolion sydd â:

  • Phrofiad o waith corfforol.
  • Phrofiad o weithio mewn amgylchedd tîm.
  • Phrofiad o weithio ar eich pen eich hun.

Am wybodaeth fanwl am y rôl hon, cyfeiriwch at y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Bersonol.

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Cysylltwch â ni

Am ragor o wybodaeth a sgwrs anffurfiol ynghylch y swydd hon, cysylltwch â Simon Edwards drwy e-bost ar simon.edwards@ceredigion.gov.uk neu dros y ffôn ar 01545 570881.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Priffyrdd ac Amgylcheddol

Rydym yn darparu gwasanaethau effeithlon, cynaliadwy a dwyieithog i bobl Ceredigion, gan hybu lles yn ein cymunedau, ymfalchïo mewn amgylchedd iach sy’n cael ei gadw’n dda, a hyder yn ein heconomi leol.

  • Gwasanaethau Trafnidiaeth: Trafnidiaeth gorfforaethol; Rheoli’r fflyd; Gwasanaethau parcio; Harbyrau.
  • Cynnal a Chadw Priffyrdd: Ymateb brys; Archwilio priffyrdd; Gwasanaeth y gaeaf.
  • Datblygu Priffyrdd: Cyswllt Cynllunio; Diogelwch ar y ffyrdd; Trafnidiaeth rhanbarthol; Goleuadau stryd; Gwaith stryd Rheoli traffig; CWIC/NMWTRA; Goruchwylio’r dyluniad; Rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd; Gwella priffyrdd.
  • Gwasanaethau Amgylchedd Leol: Casgliadau gwastraff, Safleoedd gwastraff cartref; Cynnal a chadw tiroedd; Glanhau strydoedd.
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy