Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 06/07/2026
Cyfeirnod: REQ106751
16.3 awr / Dros Dro
25,185 *
Aberystwyth
Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Dysgu i ymuno ag Adran Anghenion Ychwanegol brwdfrydig ac ymroddedig i weithio gyda myfyrwyr sy’n defnyddio’r Ganolfan Adnoddau Clyw (HRC). Mae’r uned yn darparu cymorth i fyfyrwyr â nam ar eu clyw. Bydd y swydd yn amrywio yn dibynnu ar anghenion y myfyriwr. Byddwch yn rhoi cymorth yn y dosbarth yn ogystal â darparu cymorth o fewn yr HRC ar gyfer cyn ac ôl-diwtora. Rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ddatblygu sgiliau cyfathrebu gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau gweithio mewn awyrgylch brysur. Bydd angen i’r person fod yn flaengar yn y rôl er mwyn sicrhau fod disgyblion yn gallu dilyn y cwricwlwm ac yn gwneud cynnydd da yn eu haddysg. Mae’r rôl yn un delfrydol ar gyfer unigolyn uchelgeisiol sydd gyda diddordeb gwirioneddol mewn cefnogi disgyblion i gyrraedd eu gwir botensial.
Mae gan Ysgol Penglais lawer i’w gynnig:
Am fwy o fanylion, cysylltwch a Helena Clements (PA i’r Pennaeth) ar 01970 624811 neu drwy e-bost hcl@penglais.org.uk
Mae Ysgol Penglais yn gyflogwr sydd yn sicrhau cyfleoedd cyfartal.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: