Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 08/07/2026
Cyfeirnod: REQ106756
32.5 awr / Parhaol
25,185 *
Aberystwyth
Ydych chi’n angerddol am gefnogi dysgu a datblygiad plant? Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu Lefel 2 ymroddedig ac eiddgar i ymuno â’r tîm o 01/09/26. Mae hwn yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.
Fel Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2, byddwch yn:
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
Yn gyfnewid, byddwch yn ymuno â thîm cefnogol ac ymroddedig, gyda chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol.
Os ydych chi’n angerddol am helpu plant i lwyddo ac eisiau chwarae rhan allweddol yn eu haddysg, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Darganfyddwch fwy am Ysgol Gynradd Gymunedol Llanilar yma: Amdanom ni (About us) | mysite
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Mrs Jan Jones ar 01974241334.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.
Sylwch na fydd euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: