Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 02/08/2026
Cyfeirnod: REQ106766
Achlysurol
0 *
O fewn Ceredigion
Mae’r Cyngor yn bwriadu penodi dau unigolyn i wasanaethu fel Aelodau (‘Lleyg’) Annibynnol ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (a sefydlwyd o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).
1 x Aelod Lleyg Llywodraethu ac Archwilio – i ddechrau ar 26.09.2026
1 x Aelod Lleyg Llywodraethu ac Archwilio – i ddechrau ar 30.05.2027
Bydd y penodiad am leiafswm o 5 mlynedd gyda’r posibilrwydd o estyniad am hyd at 10 mlynedd. Mae’r rôl yn gofyn am hyblygrwydd, gydag ymrwymiad o 5-7 cyfarfod yn ystod y dydd fesul blwyddyn (gan bara rhwng awr a thair awr) ar gyfartaledd, ynghyd â gwaith paratoi, hyfforddiant a datblygiad. Cynhelir yr holl gyfarfodydd o bell.
Mae’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’n cynghori’r Cyngor, y Cabinet, Pwyllgorau a Swyddogion ar lywodraethu, trosolwg ariannol, rheoli risg a pherfformiad, cwynion a rheolaeth fewnol. Mae’n sicrhau systemau llywodraethu effeithiol a chydymffurfiaeth â gweithdrefnau archwilio mewnol. Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn a rhaid iddynt gwrdd â’r meini prawf canlynol (gweler y Disgrifiad o’r Rôl a Manyleb y Person am y rhestr lawn o’r meini prawf):
Telir ffioedd ar gyfer ymgymryd â dyletswyddau yn unol â Rhestr o Gydnabyddiaeth Ariannol Aelodau’r Cyngor.
Mae manylion pellach, ynghyd â’r Disgrifiad o’r Rôl a Manyleb y Person.
Os ydych chi’n credu eich bod chi’n cwrdd â’r gofynion uchod a bod gennych chi ddiddordeb mewn dod yn aelod (lleyg) annibynnol o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, gwnewch gais.
Os hoffech chi drafod y rôl, neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â Katy Sinnett-Jones, Swyddog Llywodraethu ar 01545573062 / katy.sinnett-jones@ceredigion.gov.uk.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym yn sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu mewn ffordd gyfrifol a thryloyw drwy ddarparu cyngor cyfreithiol corfforaethol a gweithredol, archwilio, sicrwydd gwrthrychol a chymorth ar draws pob maes gwasanaeth sy’n golygu bod lles a rhwymedigaethau cyfreithiol y Cyngor yn cael eu cadarnhau, a darparu sicrwydd ar lywodraethu, risg a rheolaethau mewnol.