Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Cynorthwyydd Arlwyo – Ysgol Bro Teifi

Dyddiad Cau: 24/07/2026

Cyfeirnod: REQ106794

15 awr / Parhaol

24,796 *

Llandysul

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi cynorthwyydd arlwyo i weithio yng nghegin yr ysgol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm arlwyo llwyddiannus iawn sy’n darparu bwyd o safon uchel i ddisgyblion a staff.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

  • Cyflawni tasgau arlwyo bwyd, gan gynnwys paratoi diodydd, llysiau a bwydydd eraill.
  • Dyletswyddau cyffredinol, gan gynnwys golchi offer a llestri a glanhau’r holl ardaloedd a’r mannau o’u hamgylch.
  • Gweini prydau, gosod a chlirio byrddau yn ôl yr angen.
  • Ar brydiau, pan fo’r Goruchwyliwr/Cogydd i ffwrdd, ymgymryd â thasgau elfennol o ran coginio bwyd a hynny o dan arolygaeth.
  • Cydweithio a chyfathrebu gyda staff eraill yr ysgol, y disgyblion, a’r cyhoedd er mwyn hybu hinsawdd ysgol gadarnhaol.
  • Meddu ar dystysgrif Hylendid Bwyd Sylfaenol (neu fod yn fodlon gweithio tuag ato).

Mae’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd ond nid yn hanfodol.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Os am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, cysylltwch â Rheolwr Busnes Ysgol Bro Teifi, Mrs Angharad Morgan-Jones ar 01559 362503 neu drwy e-bost, morg-jonea@broteifi.ceredigion.sch.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant

Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu.  Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: 

  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol 
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • ​Uned Gofal Plant​​: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Llandysul
Yn hanesyddol, Llandysul oedd canolbwynt diwydiant gwlân Cymru, lle cyflogid miloedd o bobl yn ystod y chwyldro diwydiannol.
Darllen mwy