Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 05/08/2026
Cyfeirnod: REQ106804
18.5 awr / Dros Dro
26,403 - 27,694 *
Aberystwyth
Rydym am recriwtio Cynorthwy-ydd Dysgu Lefel 3 i ymuno â’n Tîm Gwasanaeth Synhwyraidd ADY ar sail dros dro, rhan amser (yn ystod y tymor yn unig) i fod yn seiliedig yn y ddarpariaeth adnoddau clyw arbenigol.
Am y rôl
O ddydd i ddydd, bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gefnogi mynediad i ddysgu ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol/ymddygiadol difrifol/ dwys/arbennig gan gynnwys darparu cymorth meddygol penodol i mewn ac allan o’r ystafell ddosbarth ac mewn darpariaeth adnoddau. . Byddant yn cynnig cymorth ac arweiniad i, ac yn gweithio gydag ysgolion Ceredigion i gynorthwyo gyda throsglwyddo disgyblion rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd.
Rydym am recriwtio unigolyn sydd:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Dr Louize A Miller drwy e-bost ar lam@penglais.org.uk neu 07773075522.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: