Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 20/08/2026
Cyfeirnod: REQ106822
37 awr / Parhaol
35,412 - 37,280 *
Aberystwyth
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Gwneud Gwahaniaeth i Ddyfodol Pobl Ifanc
A ydych chi’n angerddol am helpu unigolion i oresgyn rhwystrau, datblygu sgiliau newydd a chyflawni eu potensial llawn?
Mae Hyfforddiant Ceredigion Training (HCT) yn chwilio am Ymgynghorydd Hyfforddi – Ymgysylltu brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â’n tîm Dysgu Galwedigaethol a Sgiliau. Mae’r rôl werth chweil hon yn cynnig y cyfle i gefnogi dysgwyr o ystod eang o gefndiroedd, gan eu helpu i feithrin hyder, ennill sgiliau gwerthfawr, a symud ymlaen i hyfforddiant pellach, prentisiaethau neu gyflogaeth gynaliadwy.
Fel Ymgynghorydd Hyfforddi, byddwch yn dylunio a chyflwyno rhaglenni dysgu deniadol, yn darparu arweiniad a mentora, ac yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr, ysgolion ac asiantaethau partner i greu canlyniadau cadarnhaol i ddysgwyr.
Ynglŷn â’r Rôl
Byddwch yn:
Yr Hyn Rydym yn Chwilio Amdano
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
Pam Ymuno â Ni?
Yn Hyfforddiant Ceredigion, byddwch yn rhan o dîm ymroddedig sydd wedi ymrwymo i wella bywydau trwy ddysgu, sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth. Bydd cyfle gennych i wneud effaith ystyrlon ar ddyfodol dysgwyr ledled Ceredigion wrth ddatblygu eich sgiliau a’ch arbenigedd proffesiynol eich hun.
Ymunwch â Ni
Os ydych chi wedi ymrwymo i helpu unigolion i feithrin hyder, datblygu sgiliau a chyflawni dilyniant cadarnhaol i ddysgu a chyflogaeth, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, buddion teulu gwell, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles gweithwyr. Mentrau iechyd a lles gan gynnwys aelodaethau disgownt i’n canolfannau hamdden lleol.
Mae’r Awdurdod wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn ac felly bydd yr Awdurdod yn gofyn am Ddatgeliad Manwl.
Gwnewch gais heddiw a helpwch i lunio dyfodol mwy disglair ledled Ceredigion.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am fanylion pellach cysylltwch â Karen Bulman 07967278986 neu Karen.Bulman@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn sicrhau y darperir darpariaeth dysgu gydol oes galwedigaethol i ddinasyddion Ceredigion, gyda mynediad at hamdden, chwaraeon, y celfyddydau, diwylliant a’r Gymraeg. Ein prif swyddogaeth yw: