Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Gweithiwr Cymorth – Canolfan Padarn

Dyddiad Cau: 10/09/2026

Cyfeirnod: REQ106851

37 awr / Parhaol

28,598 - 30,518 *

Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.

Ymunwch â’n Tîm yngNghanolfan Padarn!

Wedi’i leoli yng nghanol Aberystwyth, mae Canolfan Padarn yn ganolfan adnoddau groesawgar sy’n ymroddedig i gefnogi oedolion ag anableddau dysgu.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, gofalgar a llawn cymhelliant i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl.Yn y rôl werth chweil hon, byddwch yn:

  • Cefnogi defnyddwyr gwasanaeth i gael mynediad at gyfleusterau cymunedol lleol;
  • Eu helpu i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol;
  • Grymuso unigolion i gyflawni eu nodau personol trwy ddull sy’n canolbwyntio ar y person.

Os ydych chi’n angerddol am gynhwysiant, annibyniaeth a chreu cyfleoedd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!

Mae trwydded yrru lawn yn hanfodol, a dylech fod yn gyfforddus yn gyrru cerbydau trafnidiaeth gymdeithasol fel rhan o’r rôl.

Byddwn yn darparu hyfforddiant cynhwysfawr a goruchwyliaeth reolaidd i’ch cefnogi yn eich gwaith.

Mae dull hyblyg yn bwysig, gan y gallai fod angen rhai sifftiau gyda’r nos a phenwythnos i ddiwallu anghenion ein defnyddwyr gwasanaeth

Pam ymuno â ni?

  • Gwneud effaith gadarnhaol bob dydd;
  • Bod yn rhan o dîm cefnogol a chyfeillgar;
  • Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth TîmCeredigion

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y rôl hon, cysylltwch â: Diane Williams ar Diane.Williams@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Gofal – Gwasanaethau Ymyrraeth wedi’u Targedu

Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol. Ein prif swyddogaethau yw:

Gwasanaethau Brysbennu ac Asesu Integredig

  • Tîm Derbyn a Gweithrediadau Integredig
  • Tîm Asesu Integredig
  • Tîm Dyletswydd Brys
Gwasanaethau Targedig a Thymor Byr
  • Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol
  • Tîm Logisteg a Gweithrediadau’r Ganolfan Byw’n Annibynnol (CILC)
  • Gofal Integredig Targedig a Galluogi
  • Gofal a Galluogir gan Dechnoleg a Gwasanaethau Synhwyraidd
  • Therapi Galwedigaethol

Gwasanaethau Uniongyrchol

  • Tîm Gwasanaethau Gofal Dyddiol
  • Timau Gofal Preswyl
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy