Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Technolegydd Bwyd Cynorthwyol

Dyddiad Cau: 23/09/2026

Cyfeirnod: REQ106859

37 awr / Cyfnod Penodedig

32,578 - 34,811 *

Llandysul

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Mae Canolfan Bwyd Cymru yn chwilio am unigolion brwdfrydig, hyblyg a chryf eu cymhelliant i ymuno â’n tîm a’i gryfhau, gan gynnig gwasanaeth rhagorol er mwyn hwyluso twf ar draws y sector bwyd a diod.

Rydym wedi creu sawl swydd newydd ar draws ein disgyblaethau datblygu busnes a thechnoleg bwyd i ddatblygu ein hamrediad o gymorth ar draws y gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth ymhellach.

Rydym yn chwilio am unigolion i fod yn rhan o’r tîm, gan gynnig gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth ymarferol, adeiladol a gwerthfawr wedi’u gweithredu ar draws yr holl agweddau ar ddisgyblaethau gweithredol a thechnegol bwyd a diod.

Mae cyfleoedd i bobl ar bob lefel o ran gallu a phrofiad, a chynigir y cyfle i unigolion weithio mewn amgylchedd arloesol a chydweithredol, sy’n canolbwyntio ar sicrhau twf.

Byddwch yn ymwneud ag ystod amrywiol o brosiectau ysbrydoledig ac yn cael cyfleoedd lluosog i ymgymryd â datblygiad personol gwerthfawr.

Rydym yn awyddus i recriwtio Technolegydd Bwyd Cynorthwyol i roi cyngor technegol i gleientiaid a chynorthwyo’r tîm Technegol presennol i gyflawni prosiectau wedi’u hariannu. Bydd prosiectau’n canolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch newydd, achrediadau allanol a chynaliadwyedd gyda chleientiaid ledled de orllewin a chanolbarth Cymru.

Wedi’ch addysgu hyd at safon gradd mewn Technoleg Bwyd neu bwnc cysylltiedig bydd gennych ddiddordeb gwirioneddol yn y modd y caiff gwyddoniaeth ei chymhwyso i brosesu bwyd a diod. Rhaid i chi feddu ar sgiliau rhyngbersonol da a bod â gogwydd tîm gyda’r gallu i ddelio â blaenoriaethau sy’n newid

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.

Mae hwn yn gontract cyfnod penodol sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2027.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: gina.davies@ceredigion.gov.uk.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Economi ac Adfywio

Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni un o brif amcanion Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, sef ceisio rhoi hwb i economi’r Sir a Chanolbarth Cymru. Rydym wedi ein trefnu yn dair prif adran: Gwasanaethau Economi, Cynllunio ac Eiddo.  Ein prif swyddogaethau yw:

  • Twf a Menter: Cefnogi twf ac adfywiad economaidd yn lleol ac ar draws y rhanbarth; Tyfu Canolbarth Cymru; yr Ystâd Gorfforaethol a Chyfleoedd Datblygu; Cefnogaeth Prosiect; Cyllid Ewropeaidd a lleol; Canolfan Fwyd Cymru a chefnogi datblygiad Bwyd-Amaeth; Hyrwyddo a datblygu twristiaeth; Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid; Arfordir a Chefn Gwlad
  • Gwasanaethau Cynllunio: Cefnogi twf trwy’r Gwasanaethau Cynllunio a Rheoli Adeiladu; Polisi Cynllunio Defnydd Tir Strategol a Lleol; Rheoli Datblygu; Rheoli Adeiladu; a Chwiliadau Tir.
  • Gwasanaethau Eiddo: Cefnogi rhaglen y Cyngor trwy Reoli Prosiectau; Cynnal a Chadw Eiddo ac Adeiladau; Rheoli Cyfleusterau; Rheoli Carbon; a’r Defnydd Effeithlon o Eiddo’r Cyngor.
Llandysul
Yn hanesyddol, Llandysul oedd canolbwynt diwydiant gwlân Cymru, lle cyflogid miloedd o bobl yn ystod y chwyldro diwydiannol.
Darllen mwy