Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 – Ysgol Gynradd Dyffryn Cledlyn

Dyddiad Cau: 04/10/2026

Cyfeirnod: REQ106909

9 awr / Cyfnod Penodedig

26,016 *

Llanbedr Pont Steffan

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Ydych chi’n berson brwdfrydig, egnïol sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth go iawn ym mywydau plant? Hoffech chi ymuno ag ysgol hapus, ofalgar a llwyddiannus lle mae lles a chynnydd pob disgybl yn ganolog i bopeth a wnawn?

Mae Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Dyffryn Cledlyn  yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu Lefel 2 medrus i ymuno â’n tîm ymroddedig mor fuan â phosib, am gyfnod tan Awst 2028 am 9 awr yn wythnosol. Mi fydd y swydd yn gweithio gydag unigolyn penodol ac yn datblygu agweddau ieithyddol. Rydym yn gymuned glos sy’n rhoi pwyslais ar ofal, cydweithio a chreu cyfleoedd dysgu cyffrous i bawb.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi dysgu a datblygiad disgybl i gynyddu hyder a phrofiadau ieithyddol.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol i’r swydd hon.

Disgwyliadau’r rôl:

  • Cefnogi disgybl, mewn amgylchedd diogel a chynhwysol.
  • Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion a’u hannog i gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau dysgu.
  • Hyrwyddo hunan-barch, annibyniaeth a chydweithio ymhlith disgyblion.
  • Gweithio’n agos gydag athrawon i gynllunio a chyflwyno gweithgareddau dysgu ystyrlon.
  • Bod yn rhan weithgar o dîm cefnogol ac ymroddedig.

Rydym yn chwilio am rywun sydd:

  • Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu gwych yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Yn gallu adeiladu perthnasau cadarn dros ystod oedran a gallu.
  • Yn gweithio’n hyblyg ac yn gadarnhaol fel rhan o dîm.
  • Yn meddu ar gymhwyster NVQ3 neu brofiad cyfatebol.

Byddai profiad o weithio gyda disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn fantais, ond nid yn hanfodol.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Am fwy o fanylion, mae croeso cynnes i chi gysylltu gyda’r Pennaeth Carol Davies ar daviesc2048@hwbcymru.net

Noder: Cedwir yr hawl i newid y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant

Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu.  Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: 

  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol 
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • ​Uned Gofal Plant​​: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant