Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Arweinydd Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol – Tyfu Canolbarth Cymru

Dyddiad Cau: 29/10/2026

Cyfeirnod: REQ106915

37 awr / Cyfnod Penodedig

47,665 - 49,817 *

Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Dyma gyfle prin i lunio llais, gwelededd a naratif cyhoeddus Canolbarth Cymru.

Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn chwilio am Arweinydd Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol hyderus, craff yn wleidyddol ac yn ddwyieithog i ddarparu arweinyddiaeth uwch ym maes cyfathrebu, ymgysylltu a materion cyhoeddus ar draws Bargen Twf Canolbarth Cymru a’r rhaglen ranbarthol ehangach.

Gan weithio wrth galon partneriaeth gymhleth sy’n cynnwys awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Aelodau etholedig, busnesau a chymunedau, byddwch yn helpu i drosi blaenoriaethau rhanbarthol uchelgeisiol yn gyfathrebu clir, credadwy ac ymgysylltiol. Byddwch yn cynghori uwch arweinwyr, yn rheoli materion sensitif ac uchel eu proffil, yn cryfhau perthnasoedd â rhanddeiliaid, ac yn helpu i ddangos effaith buddsoddiad ledled Canolbarth Cymru.

Os ydych yn gyfathrebwr strategol sy’n gallu dod â chlirdeb i amgylcheddau cymhleth, meithrin hyder rhwng partneriaid a dweud stori Canolbarth Cymru yn effeithiol i gynulleidfaoedd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, hoffem glywed gennych.

Cytundeb cyfnod penodol yw hwn tan fis Mawrth 2028.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â: Carwyn.jones-evans@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Economi ac Adfywio

Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflawni un o brif amcanion Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, sef ceisio rhoi hwb i economi’r Sir a Chanolbarth Cymru. Rydym wedi ein trefnu yn dair prif adran: Gwasanaethau Economi, Cynllunio ac Eiddo.  Ein prif swyddogaethau yw:

  • Twf a Menter: Cefnogi twf ac adfywiad economaidd yn lleol ac ar draws y rhanbarth; Tyfu Canolbarth Cymru; yr Ystâd Gorfforaethol a Chyfleoedd Datblygu; Cefnogaeth Prosiect; Cyllid Ewropeaidd a lleol; Canolfan Fwyd Cymru a chefnogi datblygiad Bwyd-Amaeth; Hyrwyddo a datblygu twristiaeth; Canolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid; Arfordir a Chefn Gwlad
  • Gwasanaethau Cynllunio: Cefnogi twf trwy’r Gwasanaethau Cynllunio a Rheoli Adeiladu; Polisi Cynllunio Defnydd Tir Strategol a Lleol; Rheoli Datblygu; Rheoli Adeiladu; a Chwiliadau Tir.
  • Gwasanaethau Eiddo: Cefnogi rhaglen y Cyngor trwy Reoli Prosiectau; Cynnal a Chadw Eiddo ac Adeiladau; Rheoli Cyfleusterau; Rheoli Carbon; a’r Defnydd Effeithlon o Eiddo’r Cyngor.
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy