Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 22/10/2026
Cyfeirnod: REQ106920
32.5 awr / Parhaol
62,612 - 72,579 *
Aberteifi
HYSBYSEB SWYDD: PENNAETH YSGOLION CYNRADD CENARTH A LLECHRYD
GRADDFA CYFLOG: L8 – L14
ISR: 1c
Cyflog: £62,612 – £72,579
Yn eisiau erbyn y 1af o Ionawr, 2027 (neu cyn gynted a phosib ar ôl hynny)
Nifer y dysgwyr ym mis Medi 2026 – Cenarth: 84 Llechryd: 42
Cyfle cyffrous i arwain dwy ysgol gynradd Gymraeg sydd wrth galon eu cymunedau.
Mae Cyrff Llywodraethu Ysgol Cenarth ac Ysgol Llechryd yn chwilio am Bennaeth eithriadol, ysbrydoledig ac uchelgeisiol i arwain y ddwy ysgol i’r cam nesaf yn eu datblygiad. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymrwymo i sicrhau bod pob dysgwr yn ffynnu ac yn cael y dechrau gorau posibl.
Ysgol Cenarth
Mae Ysgol Cenarth yn ysgol wledig Gymraeg lwyddiannus sydd â lle arbennig yng nghalon ei chymuned. Mae Estyn yn ei disgrifio fel “cymuned hapus, deuluol a chroesawgar” (Hydref 2023), lle mae disgyblion cwrtais a brwdfrydig yn cael eu cefnogi gan staff ymroddedig a pherthnasoedd cryf â rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach.
Mae’r ysgol yn hyrwyddo’r Gymraeg, Cymreictod a dysgu sy’n adlewyrchu cynefin y disgyblion. Bydd y Pennaeth newydd yn adeiladu ar y sylfeini hyn ac yn arwain yr ysgol yn hyderus i’r cam nesaf. Cwblhawyd rhaglen o waith adnewyddu ac adeiladu ar y safle yn 2022.
Ysgol Llechryd
Mae Ysgol Llechryd yn ysgol gynradd Gymraeg lewyrchus. Mae Estyn yn ei disgrifio fel “cymuned ddysgu hapus a chynhwysol” (Tachwedd 2025), lle mae disgyblion a staff yn trin ei gilydd â gofal a charedigrwydd, ac mae cyfeiriad strategol clir yn cefnogi gwelliant parhaus.
Mae’r cwricwlwm wedi’i wreiddio yn yr ardal leol, ei threftadaeth a’r Gymraeg, ac mae partneriaethau cadarn yn cyfoethogi profiadau’r disgyblion. Bydd y Pennaeth newydd yn adeiladu ar y gwaith hwn ac yn arwain yr ysgol ymlaen gyda disgwyliadau uchel. Mae Cylch Meithrin wedi’i leoli ar y safle.
Rydym yn chwilio am arweinydd sydd:
Ar hyn o bryd, nid oes gan y Pennaeth gyfrifoldeb addysgu. Fodd bynnag, adolygir y sefyllfa hon yn gyson yn unol â chyllidebau Ysgolion Cynradd Cenarth a Llechryd.
Ein huchelgais
Rydym am benodi Pennaeth a fydd yn parchu hunaniaeth pob ysgol, yn cryfhau’r cydweithio rhyngddynt ac yn arwain gyda gweledigaeth ac egni i sicrhau dyfodol disglair i bob dysgwr.
Os ydych yn arweinydd ysbrydoledig sy’n rhannu ein huchelgais i roi “Dechrau Da” i bob plentyn, ei helpu i dyfu “o’r fesen fach i’r gangen uchaf” a sicrhau “Dyfodol Disglair”, hoffem glywed gennych.
Mae’r hysbyseb hon ar gyfer swydd Pennaeth llawn amser lle mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr sydd yn ceisio am eu swydd Pennaeth parhaol gyntaf feddu ar gymhwyster CPCP (Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth.)
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae croeso i ymgeiswyr sy’n dymuno ymweld â’r ddwy ysgol cyn gwneud cais, wneud hynny drwy gysylltu â Mr Chris James (Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Gynradd Cenarth) drwy e-bost ar chrisjamescenarth@mac.coma Miss Helen Groth (Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Gynradd Llechryd) ar hello@helengroth.co.uki drefnu ymweliad.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch ag Elen Gwenllian Davies, Ymgynghorydd Cefnogi Ysgolion, ar 07970 000479 neu drwy e-bost elen.gwenllian.davies@ceredigion.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw nos Iau, 22ain o Hydref, 2026 am 11.59yh a chynhelir cyfweliadau ar ddydd Mercher, 11eg o Dachwedd, 2026.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: