Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Uwch Swyddog Cymorth i Wasanaethau

Dyddiad Cau: 28/10/2026

Cyfeirnod: REQ106928

37 awr / Cyfnod Penodedig

27,274 - 28,608 *

Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Mae cyfle wedi codi i recriwtio Uwch Swyddog Cymorth i Wasanaethau i’r strwythur Cymorth Gwasanaethau Corfforaethol, ar sail lawn amser a chyfnod penodol.

Am y Rôl:

Er y bydd y rôl wedi’i lleoli o fewn y Tîm Cymorth Gwasanaethau Corfforaethol, bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda gwasanaeth Porth Cymorth Cynnar ac yn darparu cymorth gweinyddol i’r ardaloedd newydd sy’n rhan o ehangu’r rhaglen Dechrau’n Deg. Mae Dechrau’n Deg yn fenter Llywodraeth Cymru sy’n darparu cymorth a chyfleoedd i deuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed.

Bydd gofyn i’r Uwch Swyddog Cymorth i Wasanaethau:

  • Trefnu a darparu cymorth gweinyddol ar gyfer cyfarfodydd grwpiau llywio, gan gynnwys paratoi agendâu, rheoli presenoldeb a dosbarthu dogfennau cyfarfod.
  • Darparu gwasanaeth cynhwysfawr o gymryd cofnodion ar gyfer amrywiaeth o gyfarfodydd amlasiantaethol cymhleth.
  • Echdynnu, dadansoddi a chyflwyno data gan ddefnyddio pecyn Microsoft Office, yn benodol Microsoft Excel.
  • Cefnogi’r Cydlynydd Rhaglenni Grant yn y gwaith o greu a chynnal cofrestrau darparwyr gofal plant, a chynorthwyo gyda phrosesu taliadau i leoliadau gofal plant.
  • Cynorthwyo gyda datblygu cynlluniau gweithredu’r cynllun Dechrau’n Deg yn barhaus.
  • Mewnbynnu, cynnal a diweddaru data a gwybodaeth yn gywir o fewn cronfeydd data arbenigol a systemau rheoli gwybodaeth.
  • Goruchwylio cyfrifon e-bost cyffredinol ar ran y gwasanaeth a gweithredu yn ôl yr angen.
  • Paratoi a dosbarthu dogfennau o dan gyfarwyddyd y gwasanaeth gweithredol.

Am yr Ymgeisydd:

Bydd angen i’r ymgeisydd feddu ar gymhwyster NVQ Lefel 4 mewn Gweinyddu Busnes neu brofiad cyfatebol profedig. Bydd angen sgiliau TG rhagorol arnoch ynghyd â sgiliau rhifedd a dadansoddol da. Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus allu gweithio’n effeithiol o dan bwysau i gyflawni terfynau amser a blaenoriaethu tasgau yn unol ag anghenion y gwasanaeth.

Mae’r rhinweddau canlynol yn ofynnol ar gyfer y swydd:

  • Y gallu i weithio o dan bwysau i fodloni terfynau amser.
  • Y gallu i ddadansoddi effaith problemau a blaenoriaethu gwaith.
  • Sgiliau rhifedd a dadansoddol da.
  • Dealltwriaeth o ddiogelwch data a sut mae hyn yn berthnasol i ddatgelu data.
  • Y gallu i ddelio â gwybodaeth sensitif a allai fod yn peri gofid mewn modd proffesiynol ac aeddfed.
  • Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid da, gan gynnwys diplomyddiaeth, tact a’r gallu i ddatrys gwrthdaro.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag: Anwen Thomas, Anwen.Thomas3@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaethau Democrataidd

Rydym yn chwarae rhan allweddol yn sicrhau rheolaeth esmwyth ac effeithlon ar broses gwneud penderfyniadau’r Cyngor, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i Gynghorwyr; Cefnogaeth PA, gweinyddol a rheoli prosiect i bob maes gwasanaeth; hwyluso etholiadau; tim cyfathrebu; cyfieithu a swyddog polisi Iaith Gymraeg. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys

  • Cefnogaeth Gwasanaeth Corfforaethol: PA a chefnogaeth weinyddol; Cymorth busnes gan gynnwys rheoli prosiect a chymryd cofnodion.
  • Gwasanaethau Democrataidd: Cynghorwyr; Pwyllgorau a Phwyllgorau Rheoleiddio Cyngor, Cabinet, Trosolwg a Chraffu.
  • Gwasanaethau Etholiadol: Etholiadau cyffredinol a lleol; Rheoli’r gofrestr etholiadol.
  • Tim Cyfathrebu: Rheoli gweithgareddau cyfathrebu yn gorfforaethol; rhoi cymorth i wasanaethau mewn ymgyrchoedd a phrosiectau; delio â’r wasg a’r cyfryngau; datblygu a chyhoeddi datganiadau i’r wasg; rheoli tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
  • Cyfieithi: Dogfennau a chyfieithu ar y pryd.
  • Safonau’r Iaith Cymraeg: Gweithredol; Llunio polisi; Hyrwyddo; Monitro; Darparu gwasanaeth.
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy