Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 20/10/2026
Cyfeirnod: REQ106937
37 awr / Parhaol
32,578 - 34,811 *
Tregaron
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Henry Richard yn dymuno penodi Prif Swyddog Gweinyddol eithriadol i chwarae rôl allweddol yn natblygiad a gweithrediad dyddiol yr ysgol. Disgwylir i ddeiliad y swydd ddechrau ar 5 Tachwedd 2026, neu cyn gynted â phosibl wedi’r dyddiad hwnnw.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson hynod drefnus, proffesiynol ac ymroddedig, gyda’r gallu i ddarparu gwasanaeth gweinyddol a chymorth busnes o’r safon uchaf. Bydd yn ymuno â thîm brwdfrydig ac ymroddedig o staff sy’n gweithio gyda’i gilydd i sicrhau’r cyfleoedd gorau posibl i’n disgyblion.
Mae sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd allu llunio gohebiaeth, cyfathrebu’n effeithiol ag ystod eang o randdeiliaid, a gweithredu fel pwynt cyswllt proffesiynol ar gyfer yr ysgol yn y ddwy iaith.
Bydd angen sgiliau TGCh ardderchog, ynghyd â hyder a hyblygrwydd i ddefnyddio amrywiaeth eang o systemau a phecynnau meddalwedd. Dylai’r ymgeisydd feddu ar y gallu a’r parodrwydd i ddatblygu ei wybodaeth a’i sgiliau digidol yn barhaus er mwyn ymateb i ofynion newidiol y swydd.
Bydd y rôl hefyd yn cynnwys cyfrifoldebau ariannol pwysig, gan gynnwys cynnal a monitro systemau archebu, prosesu archebion a biliau, cynnal cofnodion gwariant cywir, a sicrhau trosolwg effeithiol o brosesau ariannol yr ysgol. Felly, mae sylw manwl i fanylion a sgiliau trefnu cryf yn ofynion hanfodol.
Gan fod y swydd yn cynnwys delio â gwybodaeth sensitif a chyfrinachol ynghylch staff, disgyblion a gweithdrefnau’r ysgol, bydd disgwyl i’r ymgeisydd ddangos y safonau uchaf o broffesiynoldeb, uniondeb a chyfrinachedd bob amser.
Disgwylir hyblygrwydd o ran dyletswyddau, ynghyd â’r gallu i weithio’n effeithiol fel aelod o dîm ac yn annibynnol pan fo angen.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Am fwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â Phennaeth Ysgol Henry Richard, Mr Dorian Pugh, ar pughd22@henryrichard.ceredigion.sch.uk neu ar 01974298231.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: