Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Swyddog Ymgysylltu Cyflogaeth a Sgiliau – Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Dyddiad Cau: 11/11/2026

Cyfeirnod: REQ106954

37 awr / Cyfnod Penodedig

36,581 - 38,510 *

Aberystwyth

*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.

Ynglŷn â'r rôl

Rydym yn edrych i recriwtio Swyddog Ymgysylltu Cyflogaeth a Sgiliau – Dysgu Gydol Oes a Sgiliau i ymuno â’n gwasanaeth Ysgolion, Gydol Oes Dysgu a Diwylliant.

Ynglŷn â’r rôl

Arwain y gwaith o ddatblygu, cydlynu a darparu gweithgareddau ymgysylltu â chyflogwyr, cymunedau ac amlasiantaethau ar draws Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Cryfhau partneriaethau sy’n cefnogi cyflogadwyedd, dysgu a llwybrau cynnydd i oedolion a phobl ifanc yng Ngheredigion.

Hybu ymgysylltiad drwy weithgareddau allgymorth wedi’u targedu, digwyddiadau, marchnata a dulliau sy’n seiliedig ar ddata er mwyn cynyddu cyfranogiad, gwella profiadau dysgwyr a chyflogwyr, a sicrhau bod y ddarpariaeth yn cwrdd ag anghenion y farchnad lafur lleol.

Ynglŷn â’r  ymgeisydd

Wedi’ch addysgu i lefel gradd mewn marchnata neu gysylltiadau cyhoeddus, neu fod gennych dros 4 blynedd o brofiad perthnasol ar lefel gyfatebol, bydd gennych ddealltwriaeth dda o brosiectau neu gyllid Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer cymorth cyflogaeth, addysg ôl-16 neu hyfforddiant.

Cefndir cadarn o weithio gydag oedolion a phobl ifanc ar draws sectorau, megis addysg, iechyd, tai, gofal cymdeithasol neu’r sector gwirfoddol yn hanfodol, ynghyd â phrofiad o drefnu neu hwyluso cyfarfodydd amlasiantaeth, fforymau, a digwyddiadau hyrwyddo neu ymgysylltu.

Bydd gennych brofiad o ddatblygu dulliau marchnata a chreu deunyddiau hyrwyddo deniadol a negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal ag arbenigedd mewn cyflwyno gwybodaeth gymhleth i asiantaethau a sefydliadau allanol.

Oherwydd gofynion y rôl mae’n rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â lefel o ruglder yn y Gymraeg ar benodiad. Gweler y fanyleb person am fanylion pellach.

Mae hon yn swydd gyfnod penodol tan 31/03/2028.

Ein cynnig i chi

Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein pobl.   Nid yn unig y byddwn yn cynnig cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth ar y cyfrifoldebau allweddol o’r swydd hon yn gyflym ac yn hyderus, ond hefyd, yn eich cefnogi i ddatblygu er mwyn i chi allu gwneud cynnydd yn eich gyrfa gyda ni.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cefnogaeth gynhwysfawr i weithwyr o ran iechyd a lles a chynllun cyfraniadau pensiwn hael.

Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:

  • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa.
  • Flexi-time: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.

Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr ar ein gwefan gyrfaoedd.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion

Cysylltwch â ni

Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon ffoniwch Alison Newby ar 07805760467 neu ebost alison.newby@ceredigion.gov.uk.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant

Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu.  Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: 

  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol 
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • ​Uned Gofal Plant​​: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy