Rydym yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Dyddiad Cau: 02/12/2026
Cyfeirnod: REQ106997
Achlysurol
25,614 *
Llandysul
Mae Ysgol Bro Teifi yn edrych i ehangu’r nifer oruchwylwyr arholiadau a gyflogir yn yr ysgol. Mae’r swydd yn cynnwys goruchwylio arholiadau ar gyfer Blynyddoedd 9 i 13, gan sicrhau bod yr holl reolau ar gyfer arholiadau yn cael eu dilyn. Nid oes oriau penodol ond mae prif cyfnodau’r arholiadau ym mis Tachwedd, Ionawr, Mai a Mehefin. Bydd hyfforddiant ar gynnig i’r ymgeiswyr llwyddiannus er mwyn sicrhau ein bod yn cadw hygrededd y broses arholi ac yn dilyn canllawiau’r cyrff dyfarnu.
Os am sgwrs pellach am y rôl, cysylltwch gyda’r Swyddog Arholiadau, Mr Rhydian Jones yn yr ysgol.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i’n hysgolion, i’w helpu i gyflwyno addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys: