Rydym yn falch iawn o'n hanes o ddarparu gwasanaethau diogel, effeithlon ac effeithiol o ansawdd uchel i drigolion Ceredigion.
Ein gweledigaeth barhaus yw parhau i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.
Fel rhan o wireddu’r weledigaeth hon, rydym wedi gosod y 4 nod canlynol:
Hybu’r Economi
Buddsoddi mewn Dyfodol Pobl
Galluogi Gwydnwch Unigol a Theulu
Hyrwyddo Gwytnwch Amgylcheddol a Chymunedol
Mae pob aelod o dîm Ceredigion yn gwneud cyfraniad pwysig at wireddu’r weledigaeth hon.